18.
18
+ _

Mae'r Cerbyd Curiosity wedi darganfod llawer ers iddo ddechrau crwydro Mawrth yn 2012. Un o'i offerynnau pwysig yw ei gamera, ac mae hwn wedi tynnu llawer o ddelweddau sy'n dangos arwyneb y blaned Mawrth inni.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA

Disgrifiwch beth allwch chi ei weld yn y ddelwedd hon o'r blaned Mawrth.
Mae yna fynyddoedd, a chreigiau, a llwch neu bridd sy'n edrych yn goch. Does dim dŵr i'w weld, na phlanhigion ac anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth!

Fydd camerâu ddim bob amser yn dangos gwir liwiau pethau. Gwyliwch y fideo yma gan Brifysgol Aberystwyth sy'n dangos sut y gallai lliwiau pethau ar y blaned Mawrth gael eu cywiro a'u dehongli:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Mae llawer o'r creigiau ar y blaned Mawrth, yn ogystal â'r llwch a'r pridd, yn cynnwys haearn ocsid (hematit, Fe3O2), ac mae'r haearn yn y cyfansoddyn hwn yn rhoi lliw coch. Mae'r llun yma'n dangos golwg agos ar nodylau craig sy'n cynnwys haearn ocsid ar y blaned Mawrth. Dydy'r gwyddonwyr ddim yn siŵr eto sut y cafodd y siapiau rhyfedd hyn eu ffurfio.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL/Cornell/USGS