14.
14
+ _

Seryddwyr a Thelesgopau

Mae seryddwyr yn wyddonwyr sy'n astudio sêr, planedau, a'r gofod. Yn aml, maen nhw'n defnyddio telesgopau cryf iawn.

Beth yw telesgop?
Dyfais sy'n ein helpu i weld gwrthrychau sy'n bell i ffwrdd, a dysgu amdanyn nhw. Mae telesgopau syml yn defnyddio lensys gwydr i ffocysu golau. Gall seryddwyr ddefnyddio'r math yma o delesgop, neu weithiau math arall o delesgop sy'n casglu gwahanol fathau o ymbelydredd o bellter mawr i ffwrdd.
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Mae telesgop syml yn defnyddio dwy lens wydr i chwyddo gwrthrych pell.

Rhagor o wybodaeth!

Gallech chi fod yn seryddwr! Mae sawl cymdeithas seryddol yng Nghymru, fel yr un yn Abertawe:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Dyma un o delesgopau radio Jodrell bank, ger Manceinion, y gall seryddwyr eu defnyddio i astudio gwrthrychau yn y gofod.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Mike Peel; Canolfan Astroffiseg Jodrell Bank, Prifysgol Manceinion

Gwybodaeth Seryddwyr

Sut haenau sydd yna o fewn y blaned Mawrth, ym marn y gwyddonwyr, a sut mae hyn yn cymharu â'r Ddaear?
Mae yna gramen, mantell a chraidd - mae hyn yn debyg i'r Ddaear, er nad ydyn ni'n gwybod sut graidd sydd gan y blaned Mawrth eto.
Os 10m/s2 yw grym disgyrchiant ar y Ddaear, beth yw gwerth disgyrchiant ar y blaned Mawrth?
Ar y blaned Mawrth, mae disgyrchiant 62.5% yn llai nag ar y Ddaear, sef 62.5/100 x 10 = 6.25 m/s2 yn llai. Felly, grym disgyrchiant ar y blaned Mawrth yw 10 - 6.25 = 3.75 m/s2