9.
9
+ _

Prif lwybr ocsigen

Ad-drefnwch y tair elfen isod i ddangos y llwybr y mae nwy ocsigen yn ei ddilyn wrth symud o'r aer i gelloedd.

Ocsigen yn cyrraedd ein celloedd

Mae'r paragraff isod yn rhoi ychydig yn rhagor o fanylion am y diagram rydych chi newydd ei orffen. Llenwch y bylchau drwy deipio'r geiriau cywir o'r rhestr:

Pan fydd yr ocsigen yn y celloedd gwaed coch, mae'n cael ei gario ar foleciwl arbennig. Beth yw enw'r moleciwl yma?
haemoglobin
Wrth ichi gychwyn ar eich taith i'r blaned Mawrth, sut byddwch chi'n delio â'r diffyg ocsigen yn y gofod?
Bydd angen cyflenwad o ocsigen yn eich llong ofod (fel yn y llun yma).
Mae'r diffyg aer, a'r diffyg pwysedd aer, yn creu effeithiau eraill ar y corff dynol. Allwch chi feddwl am un o'r effeithiau hyn?
Heb bwysedd aer i wasgu arnyn nhw, gallai hylifau'r corff fel gwaed ddechrau berwi. Ond fel arfer mae'n llestri gwaed yn ddigon cryf i gyfyngu hyn.
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA - Llun o'r gofodwyr o Rwsia Andrey Borisenko (chwith), pennaeth Taith 28; Alexander Samokutyaev (canol) a Sergei Volkov, ill dau'n beirianwyr gofod, gyda systemau creu ocsigen Elektron o Rwsia ym Modiwl Gwasanaeth Zvezda yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol.