8.
8
+ _
1
Beth sy'n digwydd i fodau dynol os nad oes nwy ocsigen ar gael i'w anadlu?
Rydyn ni'n marw! ☹
2
Pam mae pobl ac anifeiliaid yn marw os na chân nhw ocsigen?
Darllenwch ragor!

Mae ocsigen yn helpu i roi egni i'r holl gelloedd yn ein corff (mae arnon ni angen bwyd hefyd i roi egni). Heb ocsigen, does gan y celloedd ddim egni. Mae hynny'n golygu, er enghraifft, nad yw'r celloedd mewn cyhyrau yn gallu'n helpu i symud; nad yw celloedd mewn nerfau yn gallu mynd â negeseuon yn ôl ac ymlaen i'r ymennydd; nad yw'r celloedd yn y llygaid yn gallu prosesu'r goleuni sy'n eu cyrraedd. A dweud y gwir, heb egni, buan y bydd y celloedd yn marw.

Mae'n bwysig hefyd fod sylweddau gwastraff yn cael eu symud o'r celloedd, ac mae'r cwestiynau isod yn gofyn am un o'r sylweddau hyn.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth
Y ddelwedd gan Hollyanne Schnieden

Ceisiwch ganfod yr atebion i'r cwestiynau canlynol cyn ichi glicio ar y botwm 'Dangos yr Ateb' – sawl ateb cywir gawsoch chi?

1
Wrth i'n celloedd ddefnyddio ocsigen, maen nhw'n cynhyrchu nwy gwastraff. Beth yw enw'r nwy yma?
carbon deuocsid
2
Sut rydyn ni'n gwaredu'r nwy yma o'n cyrff?
Mae'n gadael ein hysgyfaint wrth inni anadlu allan