30.
30
+ _

Rydych chi wedi bod yn byw ar y blaned Mawrth ers misoedd lawer, ac erbyn hyn mae'n bryd ichi fynd yn ôl i'r Ddaear. Bydd y siwrnai'n para o leiaf dri mis, ac felly cewch ddigon o amser ar y ffordd adre i feddwl am yr holl bethau newydd rydych chi wedi'u dysgu, ac i gynllunio'ch antur nesaf yn y gofod!

Beth ydych chi wedi'i ddysgu?

Rydych chi wedi darganfod bod teithio drwy'r gofod, a byw'n llwyddiannus ar y blaned Mawrth, yn cynnwys llawer o wyddoniaeth bwysig! Bydd y cwestiwn nesaf yn eich atgoffa am rai o'r pwyntiau allweddol:

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA: ffotograff o'r Ddaear, a gafodd ei dynnu yn ystod taith Apollo 17 i'r lleuad ym 1972

Roedd y roced a aeth â chi i'r blaned Mawrth yn teithio'n eithriadol o gyflym. Eto i gyd, fe gymerodd hi fisoedd i gyrraedd Mawrth. Pam hynny?
Am fod Mawrth yn bell iawn o'r Ddaear (rhyw 100 miliwn km ).
Rhowch enghraifft o unrhyw rymoedd roedd angen ichi feddwl amdanyn nhw ar eich siwrnai.
Enghreifftiau: grymoedd cydeffeithiol a yrrodd y roced i ffwrdd o'r Ddaear; grym disgyrchiant ar y Ddaear; grym disgyrchiant ar y blaned Mawrth (sy'n is nag ar y Ddaear).
Roedd ar eich roced angen tanwydd i greu'r grym angenrheidiol i godi i ffwrdd o ddisgyrchiant y Ddaear. Pa fath o egni oedd ar gael yn nhanwydd eich roced, a pha fath o drosiant egni a ddigwyddodd wrth i'ch roced symud i ffwrdd o'r Ddaear?
Mae tanwydd roced yn cynnwys egni cemegol sy'n cael ei droi'n egni cinetig wrth i'r roced ddechrau symud.
Pan fydd bodau dynol yn teithio yn y gofod, does fawr ddim grym disgyrchiant yn gweithredu arnyn nhw. Awgrymwch un effaith mae hyn yn ei chreu ar y corff.
Lleihau dwysedd a chryfder esgyrn; lleihau màs a chryfder cyhyrau.
Mae Mawrth yn edrych yn goch iawn. Pam hynny?
Am fod wyneb creigiog y blaned yn cynnwys y sylwedd cemegol haearn ocsid yn bennaf.

Ewch ymlaen â'ch adolygiad o'ch amser ar y blaned Mawrth drwy chwarae Bingo Mawrth!

Ar ddiwedd eich adolygiad, efallai yr hoffech drafod mewn grŵp, neu fel dosbarth cyfan, p'un a allai pobl fyw ar y blaned Mawrth mewn gwirionedd, ac os felly, pa mor hir, ac o dan ba amodau?

Pe baech chi wedi teithio i'r blaned Mawrth, ac wedi llwyddo i fyw yno am amser, fe allech chi fod yn meddwl am eich taith nesaf i'r gofod. Ble allech chi fynd?

Pa bethau sy'n gorfod cael eu hystyried pan fyddwch chi'n penderfynu ble i deithio yn y gofod?
Pellter; cyflymder eich llong ofod; yr amgylchiadau ar y blaned neu'r lleuad.

Rhaid ichi gofio bod planedau, hyd yn oed yng nghysawd ein Haul ni, yn bell iawn, ac er bod y rocedi sydd ar gael yn gallu symud yn gyflym iawn, dydyn nhw ddim fel y llongau gofod mewn ffilmiau ac ar y teledu sy'n gallu mynd yn anhygoel o gyflym, weithiau'n gynt na chyflymder golau! A hyd yn oed pe baech chi'n gallu cyrraedd planedau pell, efallai y byddai'n anodd iawn byw yno, neu hyd yn oed cael eich llong ofod i lanio.

Mawrth yw'r blaned nesaf at y Ddaear wrth ichi symud i ffwrdd o'r Haul. Pa blaned arall sy'n gymydog i ni, yr un sy'n agosach at yr Haul na ni?
Gwener
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL: Llun wedi'i liwio o Wener, a gafodd ei dynnu ym 1990

Planedau Eraill

Dilynwch y dolenni canlynol i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y blaned Gwener, a'r blaned nesaf ar ôl Mawrth, sef y blaned gawraidd Iau. Wedyn llenwch y tabl isod cyn clicio ar fotwm y roced i gymharu'ch atebion:

Gwener: http://solarsystem.nasa.gov/planets/venus/needtoknow
Iau: http://solarsystem.nasa.gov/planets/jupiter/needtoknow

Ymarfer Ymchwil

Cewch ragor o wybodaeth am Juno, taith NASA i Iau, yma:

Eisiau gwybod mwy?

Ymarfer Ymchwil

Cardiau brwydro cysawd yr Haul

Eisiau gwybod mwy?
Os yw Iau 11 gwaith yn fwy na'r Ddaear, pa ffracsiwn o Iau yw'r Ddaear?
1/11
Mae'r Ddaear 150 miliwn km o'r Haul, ond mae Iau 780 miliwn km o'r Haul. Faint yn bellach i ffwrdd o'r Haul na'r Ddaear yw Iau?
780- 150 = 630 miliwn km
Sut gallech chi gyfrifo faint o amser y byddai'n ei gymryd i gyrraedd Iau?
Mae angen gwybod buanedd y llong ofod, ac wedyn defnyddio'r fformiwla: amser = pellter ÷ buanedd
Pa bae'ch llong ofod yn teithio ar 40,000km/h, faint o amser fyddech chi'n ei gymryd i gyrraedd Iau?
630,000,000 ÷ 40,000 = 15750 o oriau (dyna 656 o ddyddiau, neu bron dwy flynedd!)

Beth sy'n gwneud Planed Ddelfrydol?

Fyddai Gwener ac Iau ddim yn blanedau da ichi ymweld â nhw! Nid yn unig maen nhw'n bell iawn, ond mae'r amgylchiadau ar y ddwy blaned yn rhy eithriadol ar gyfer y rhan fwyaf o organebau byw. Sut le fyddai'r blaned ddelfrydol? Ychwanegwch eich labeli eich hun at y diagram isod i sôn am y tymheredd, yr atmosffer, natur wyneb y blaned, a'r organebau byw sydd yno.

Mae'n debyg bod eich planed ddelfrydol yn bur debyg i'r Ddaear! A dweud y gwir, mae'n debyg y bydd unrhyw blaned y gallai pobl fyw arni yn debyg o fod tua'r un pellter i ffwrdd o'r Haul â'r Ddaear.

Pam mae pellter planed o'r Haul yn bwysig o ran cynnal bywyd (hynny yw a allai organebau byw fyw yno neu beidio)?
Am mai'r pellter o'r Haul yw'r prif ffactor sy'n peri bod planedau'n boeth neu'n oer: agosaf i gyd y maen nhw at yr Haul, poethaf i gyd ydyn nhw. Mae pellter canolig yn rhoi tymheredd rhwng 0˚C a 100˚C sy'n caniatáu i ddŵr aros yn hylif, sydd yn ei dro yn caniatáu i organebau byw oroesi (mae gwyddonwyr yn galw'r pellter yma yn ‘barth cyfanheddol' i'r Haul neu'r seren benodol)

Allblanedau

Mae gwyddonwyr yn credu y gall fod amgylchiadau sy'n debyg i'r Ddaear ar leuadau rhai o'r planedau yng nghysawd ein Haul ni, ac ar rai planedau ymhell tu allan i gysawd ein Haul ni: yr enw ar y rhain yw 'planedau all-heulol', neu ‘allblanedau’.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Darlun artist o Kepler-186f, yr allblaned gyntaf yr un faint â'r Ddaear sy'n hysbys ym mharth cyfanheddol seren.
Y ddelewedd: NASA Ames/SETI Institute/JPL-Caltech

Ymarfer Ymchwil

Mae angen ichi roi gwybodaeth bwysig am allblanedau i weinidog yn y llywodraeth. Bydd hyn yn helpu'r gweinidog i benderfynu pa blanedau i ymchwilio iddyn nhw yn y dyfodol.
Dilynwch y ddolen isod a defnyddiwch yr erthygl am ‘allblanedau' i'ch helpu i ysgrifennu rhestr fer o bwyntiau allweddol, gan gynnwys:

  • Faint o allblanedau sydd wedi'u darganfod hyd yn hyn?
  • Sut maen nhw'n cael eu darganfod?
  • Sut blanedau ydyn nhw?
  • A oes modd byw yno?

Eisiau gwybod mwy?

Rydych chi wedi darganfod llawer iawn o wybodaeth am y blaned Mawrth, ac ambell blaned arall, ond mae'n debyg eich bod yn sylweddoli bod yna lawer iawn i'w ddysgu am y Bydysawd o hyd. Gallwch ddysgu cryn dipyn drwy edrych i fyny ar awyr y nos, ac mae'n help os oes gennych finocwlar neu delesgop. (Gweler: http://amazingspace.org/tonights_sky/; http://www.bbc.co.uk/programmes/p04fyqv3)

Hefyd, gallwch gymryd rhan mewn gwyddor gofod drwy ymuno mewn llawer o ddigwyddiadau ar-lein sy'n cael ei trefnu gan NASA (gweler https://www.nasa.gov/solve/index.html), a sefydliadau fel Asiantaeth Gofod y Deyrnas Unedig. (Gweler: https://www.gov.uk/government/organisations/uk-space-agency)

Efallai yr hoffech gysylltu â nhw i roi eich syniadau chi am y blaned Mawrth, ac am archwilio'r gofod. Mae sawl rhaglen deledu a allai roi rhagor o wybodaeth ichi, fel ‘The Sky at Night’ ar y BBC bob mis. (http://www.bbc.co.uk/programmes/b006mk7h)