29.
29
+ _

Mae bwyd yn bwysig fel ffynhonnell egni i'n cyrff. Ond, byddai angen ffynonellau egni arnoch hefyd i'ch helpu i dyfu a choginio'ch bwyd, cynhesu'ch cartref ar y blaned Mawrth, puro'ch dŵr, helpu i gynhyrchu ocsigen, a gadael i robotiaid a pheiriannau eraill weithio. Yn wahanol i'r Ddaear, does dim tanwyddau ffosil fel glo, nwy neu olew ar gael. Pa ffynonellau egni sydd ar gael ichi ar y blaned Mawrth?

Ymarfer Ymchwil

Gwnewch restr o'r prif fathau o ffynonellau egni adnewyddadwy sydd ar gael ar y Ddaear. Ewch drwy'ch rhestr gan roi tic neu groes i ddangos pa ffynhonnell egni a allai fod ar gael ichi ar y blaned Mawrth. Cliciwch y botwm isod i fynd i dudalen gwe BBC Bitesize sy'n rhoi rhagor o wybodaeth.

Eisiau gwybod mwy?
Pa ffynonellau egni adnewyddadwy ar y Ddaear sydd ddim ar gael ar y blaned Mawrth?
coed, llanw, tonnau, trydan dŵr
Pam nad oes egni llanw nac egni tonnau ar gael ar y blaned Mawrth?
Achos does dim moroedd, a dim dŵr hylifol.

Un ffynhonnell bwysig o egni adnewyddadwy ar y blaned Mawrth yw egni'r Haul.

Sut gallech chi ddal egni'r Haul ar y blaned Mawrth, a'i droi'n egni trydanol i'w ddefnyddio mewn dyfeisiau gwahanol?
Byddai angen ichi ddefnyddio celloedd egni Haul.
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Efallai y byddwch chi am godi nifer fawr o gelloedd egni Haul o fewn paneli fel y rhai yn y llun yma.

Fyddai'r paneli ddim yn gallu cynhyrchu trydan ar y blaned Mawrth drwy'r amser. Pryd fydden nhw'n methu cynhyrchu trydan?
Yn ystod y nos, pan does dim golau. Hefyd, os bydd llwch yn glanio ar wyneb y celloedd egni Haul ar ôl stormydd llwch.

Byddai'n rhaid ichi wirio'ch celloedd egni Haul yn gyson, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn, ac i godi unrhyw lwch arnyn nhw a fyddai'n atal golau'r Haul rhag mynd drwodd.

Ymarfer Ymchwil

Eisiau gwybod sut gallai paneli Haul lanhau eu hunain?

Eisiau gwybod mwy?

Yn y ffilm ‘The Martian’, mae gofodwr yn cael ei adael ar y blaned Mawrth ac mae'n gorfod cynnal ei gartref, gwirio paneli Haul, a ffermio, ar ei ben ei hun. Mae e'n cadw ‘dyddiadur fideo' i gofnodi popeth sy'n digwydd iddo (fe allech chi wneud hynny hefyd!). Pan lanioch chi ar y blaned Mawrth, doeddech chi ddim ar eich pen eich hun, ond rydych chi wedi wynebu llawer o broblemau.

Anfonwch ebost!

Meddyliwch am un diwrnod penodol (neu ‘sol’) ar y blaned Mawrth pan gododd problem, ond eich bod chi wedi'i datrys. Anfonwch neges ebost at Brif Swyddog y Daith i'r blaned Mawrth ym mhencadlys NASA i sôn am beth ddigwyddodd. Ysgrifennwch eich neges yn y blwch isod, ac wedyn cliciwch ‘anfon’ pan fyddwch yn fodlon ar y neges. Mae'n debyg y bydd eich neges yn cymryd rhyw 10 munud i gyrraedd y Ddaear am fod pob neges electronig rhwng Mawrth a'r ddaear yn gorfod defnyddio lloerennau.