27.
27
+ _
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL-Caltech/MSSS

Mae pridd y blaned Mawrth yn llychlyd iawn, ac yn gochlyd ei liw. Pam hynny?
Am ei fod yn cynnwys mwyn haearn.

Bydd angen ichi newid pridd Mawrth er mwyn i'ch planhigion chi dyfu. Gallai'r haearn a metelau eraill yn y pridd effeithio ar dwf y planhigion, neu wneud y planhigion yn rhy wenwynig i ni eu bwyta. Gallai fod yn bwysig ychwanegu deunydd organig (hwmws) i'r pridd hefyd. Does dim hwmws yn y pridd ar y blaned Mawrth, ond mae'n bwysig o ran helpu planhigion i dyfu. Bydd rhaid ichi ddiwyllio, neu ffermio, eich planhigion yn ofalus, ac efallai y bydd rhaid i'ch fferm gael ei gosod fel labordy.

Rhagor o wybodaeth!

Beth sy'n ffurfio hwmws, a pham mae'n bwysig ar gyfer twf planhigion?

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Ymarfer Dadansoddi Data

Fel rhan o'ch gwaith ffermio, rydych wedi gwneud tri math gwahanol o bridd: A, B, a C. Roeddech chi eisiau darganfod pa un fyddai orau ar gyfer tyfu'ch hadau. Felly, dyma chi'n plannu tri hedyn mewn tri chynhwysydd gwahanol gyda phridd gwahanol ym mhob un. Wedyn ar ôl iddyn nhw egino, buoch yn mesur taldra'r egin-blanhigion ar adegau gwahanol. Mae'r canlyniadau wedi'u crynhoi yn y graff isod.