17.
17
+ _

Beth yw'r ffynonellau egni posibl i robot crwydrol fel ‘Curiosity’?

Mae cerbyd Curiosity'n defnyddio gwres o ddirywiad ymbelydrol plwtoniwm i gynhyrchu ei egni.

Er hynny, mae sawl llong ofod wedi defnyddio egni'r Haul, sy'n fath pwysig o egni adnewyddadwy.

Beth yw egni'r Haul?
egni sy'n dod o'r Haul
Pam mae egni'r Haul yn cael ei ddisgrifio fel egni ‘adnewyddadwy'?
am fod egni'r Haul yn cael ei 'adnewyddu'n ddi-baid, ac am ei fod ar gael drwy'r amser cyhyd â bod yr Haul yn disgleirio, ac felly fydd y math yma o egni ddim yn dod i ben.

Un enghraifft o long ofod a fu'n defnyddio egni'r Haul yw Rosetta, a gafodd ei lansio gan Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) yn 2004 i ymchwilio i adeiledd comed. Cafodd ‘modiwl glanio' o'r enw ‘Philae’ ei hanfon i wyneb y comed i ddarganfod sut beth oedd e, ac roedd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio egni'r Haul (nid cerbyd crwydrol oedd hwn: cafodd ei gynllunio i sefyll yn ei unfan).

Rhagor o wybodaeth!

Beth yw comed?

Mynnwch ragor o wybodaeth >
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Canolfan Awyrofod yr Almaen, y DLR

Rhagor o wybodaeth!

Stori Rosetta

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Roedd y llong ofod Rosetta'n defnyddio cyfres o gelloedd egni Haul i ddal egni'r Haul a'i droi'n egni a allai gael ei ddefnyddio.

Beth yw cell egni Haul (neu gell ffotofoltäig)?

Mae celloedd egni'r Haul yn adeileddau tenau, tebyg i blatiau, sy'n gallu dal egni'r Haul. Maen nhw'n amrywio o ran eu maint, ac yn cael eu gwneud o silicon fel arfer.

Allwch chi enwi unrhyw eitemau a allai gynnwys celloedd egni'r Haul?
wats ddigidol; cyfrifiannell electronig; paneli to
Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

Fel y sylwch chi yn y llun, peth cyffredin yw gweld niferoedd mawr o gelloedd egni'r Haul wedi'u gosod mewn caeau erbyn hyn, ac maen nhw i'w gweld ar doeon tai hefyd.

Pa fath o drosant egni sy'n digwydd mewn cell egni'r Haul (cell ffotofoltäig)?
egni golau i egni trydanol

Sylwch fod yna fathau gwahanol o 'baneli' Haul ar doeon ac mewn mannau eraill. Celloedd egni Haul yw rhai, ond paneli sy'n cynnwys dŵr yw rhai eraill, a'r dŵr yn cael ei dwymo gan yr Haul.

Rhagor o wybodaeth!

Mynnwch ragor o wybodaeth am gelloedd egni'r haul yma:

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Gobeithio y bydd egni'r haul yn eich helpu chi a'r dyfeisiau y byddwch yn eu defnyddio wrth ddechrau archwilio Mawrth. Ond dydyn ni ddim yn gallu dibynnu ar egni'r Haul bob amser: yn ystod taith Rosetta, fe laniodd Philae yn lletchwith ar y comed roedd yn ceisio ei astudio. Mae'r gwyddonwyr yn credu ei fod wedi glanio mewn rhan gysgodol o'r comed lle nad oedd llawer o heulwen.

Fyddai cell egni'r Haul (neu gell ffotofoltäig) yn effeithiol pe bai yn y cysgod drwy'r amser?
Na fyddai: lleiaf yn y byd o egni sydd ar gael i'r gell, lleiaf yn y byd o egni trydan a all gael ei greu.

Yn anffodus, fe fethodd Philae â defnyddio egni'r Haul, ac fe gollodd gysylltiad â Rosetta pan ddaeth y batris i ben ymhen dau ddiwrnod. Llwyddodd i wneud ambell brawf ar wyneb y comed, ond methodd â chyflawni'r rhan fwyaf o'r gwaith arfaethedig.