16.
16
+ _

O'r diwedd rydych chi wedi glanio ar y blaned Mawrth! Nawr mae angen dysgu mwy am y blaned sy'n mynd i fod yn gartref ichi am beth amser.
Sut byddwch chi'n archwilio'ch cartref newydd? Fel y gwelsoch chi ar dudalen 3, mae llongau gofod heb griw wedi cyrraedd y blaned Mawrth o'r blaen, a bydd y rhain yn rhoi syniadau ichi am sut y gallech chi archwilio Mawrth.
Un daith bwysig i'r blaned Mawrth yw taith Labordy Gwyddoniaeth Mawrth gan NASA, a ddechreuodd yn 2011. Ar 6 Awst 2012, cafodd cerbyd o'r enw ‘Curiosity’ ei osod i lawr yn y ‘Crater Gale' ar y blaned Mawrth. Mae gan y robot yma olwynion ac mae'n gallu crwydro o gwmpas a chasglu gwybodaeth.

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA

Delwedd Adnoddau Gwyddoniaeth

NASA/JPL-CALTECH/ASU

Rhagor o wybodaeth!

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dyfeisio cerbyd hefyd!

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Ymarfer Ymchwil

Anfonwch gerdyn post at Curiosity!

Mynnwch ragor o wybodaeth >

Crwydradau Curiosity

Mae Curiosity wedi gyrru rhyw wyth milltir ar draws wyneb Mawrth ers glanio yn 2012. Dydy hynny ddim yn swnio'n bell, ond mae'n bell i robot bach mewn amgylchedd anodd! Mae'n anelu am ran o'r blaned Mawrth o'r enw Mynydd Sharp. Ar 27 Gorffennaf 2016, sef diwrnod rhif 1412 ar ôl glanio, roedd Curiosity ar y smotyn melyn isaf yn y llun isod, ac mae'r smotyn melyn nesaf i fyny yn y llun yn dangos ble roedd Curiosity ar ddiwrnod 1410. Mae'r bar graddfa ar y llun yn rhoi syniad ichi o'r pellter, ac mae'r cyfeiriad yn cael ei ddangos gan bwyntiau'r cwmpawd. Edrychwch ar y llun, ac atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Rhagor o wybodaeth!

Eisiau rhagor o wybodaeth am leoliad diweddaraf Curiosity?

Mynnwch ragor o wybodaeth >
Sut gallen ni droi unedau buanedd Curiosity i km/h er mwyn gwneud cymhariaeth uniongyrchol â buanedd car teuluol?
Yn gyntaf i gyd, mae angen newid o fetrau i gilometrau. Mae un metr yn un rhan o fil o gilometr, felly mae angen rhannu nifer y metrau â 1000. Wedyn, mae angen newid dyddiau i oriau: gan fod un diwrnod yn cynnwys 24 awr, mae angen rhannu â 24 i gael y pellter sydd wedi'i deithio mewn un awr.
Felly, beth yw buanedd Curiosity (hynny yw 22.5 metr/dydd) o'i fynegi mewn unedau km/h (sef cilometrau yr awr)?
I ddechrau, rhannwch y pellter â 1000: felly 22.5 m= 22.5 x 0.001 = 0.0225 km. Nawr rhannwch â 24: felly 0.0225km ÷ 24 = 0.0009375 km/h