12.
12
+ _

Efallai na fydd colli halwynau esgyrn (dihalwyno) yn broblem tra byddwch yn dal yn y gofod, ond fe allai fod yn broblem fawr ar ôl ichi gyrraedd y blaned Mawrth, ac yn bendant ar ôl ichi ddod nôl i'r Ddaear.

Pam byddai colled halwynau esgyrn mewn person yn peri problemau i'r person ar ôl cyrraedd planed fel y blaned Mawrth neu'r Ddaear?
Os yw'n hesgyrn yn colli eu halwynau, maen nhw'n gwanhau. Ar blaned fel y blaned Mawrth neu'r Ddaear, byddai grym disgyrchiant yn gweithredu arnon ni, gan ein tynnu ni i lawr, a heb esgyrn cryf i'n cadw ni ar ein traed fe fydden ni'n syrthio'n swp!

Pan fydd ein cyrff yn ddibwysau, does dim rhaid i'n cyhyrau wneud llawer o waith i'n helpu i symud. Felly, mae'n cyhyrau'n mynd yn llai ac yn wannach hefyd.

Pan fyddwch chi yn eich llong ofod, allech chi wneud unrhyw beth i gadw'ch esgyrn a'ch cyhyrau'n gryf?
Chwiliwch am yr ateb yn yr ymarfer ymchwil isod!

Ymarfer Ymchwil

Gwyliwch y fideo, ac wedyn ysgrifennwch restr o ffyrdd i gadw esgyrn a chyhyrau'n gryf pan fyddwch chi yn y gofod:

Rhagor o wybodaeth!

Ym mis Ebrill 2016, rhedodd Tim Peake farathon Llundain tra oedd e'n byw yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Mynnwch ragor o wybodaeth >