Pethau sy'n syrthio o'r awyr, e.e. glaw, cesair, eirlaw, eira
Mathau gwahanol o gymylau, e.e. sirws – cymylau gwyn blewog uchel iawn; stratws – haenau o gymylau. Maen nhw yn aml yn llenwi'r awyr gan roi diwrnodau llwyd tywyll. Cwmwlws – cymylau sy'n grwn ar y top, fel blodfresych.
Pa mor weladwy yw popeth – clir, tarthog, niwlog.
Pa mor gryf mae'r gwynt yn chwythu, e.e. llonydd, awel fach, cymedrol, cryf, hyrddio
Rydym yn defnyddio thermomedr i fesur y tymheredd mewn graddau Celsius (°C).
Rydym yn defnyddio mesurydd glaw i fesur y glawiad mewn milimetrau (mm).
Rydym yn defnyddio anemomedr i fesur cyflymder y gwynt mewn km/h.
Rydym yn defnyddio ceiliog gwynt i fesur cyfeiriad y gwynt gan ddefnyddio pwyntiau'r cwmpawd.
Edrychwch eto ar y ffotograffau.
Allwch chi wella'ch disgrifiadau drwy ddefnyddio cymariaethau? (e.e. cymylau gwyn fel blodfresych)