×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 3 - Adnoddau i athrawon

×
Gallai'r her gael ei dynodi'n weithgaredd i'w Asesu ar ddiwedd yr Uned. Gweler Gweithgaredd PDF 3(i) i gael gwybodaeth am greu codau QR.
Ein Byd Awyr-agored: Uned 3 Dewch i edrych ar yr ardal leol!
Llun Ein Byd / Our World Image

Pam mae'r pentref wedi cael ei enwi yn 'Felin-foel'?

Yn y gorffennol, roedd melin ŷd yn cael ei redeg gan afon Lliedi yn Felin-foel. Disgrifiwyd y Felin yn 1709 fel 'melin ŷd ddŵr' a oedd yn cael ei galw yn 'Melin Voyl' neu 'Meling Voyle'. Mae pobl gyda'r cyfenw 'Voyle' i'w cael yn Sir Gaerfyrddin heddiw.

Llun Ein Byd / Our World Image

Pam y credwch bod Felin-foel yn enwog heddiw?

Fe gafodd Bragdy Felin-foel ei adeiladu yn 1878. Mae pobl yn cysylltu pentref Felin-foel gyda chwrw. Bragdy Felin-foel oedd y bragdy cyntaf ym Mhrydain Fawr i roi cwrw mewn caniau yn 1936, a'r ail yn y byd.

Llun Ein Byd / Our World Image

Pam bod plac glas wedi ei osod ar y adeilad yma?

Cyn 1689, gorfodwyd y Bedyddwyr i addoli yn y dirgel, ac i guddio mewn tai ac ogofai. Yn 1689, pasiwyd Deddf Goddefiad Crefyddol a oedd yn gadael i bobl addoli'n gyhoeddus. Adeiladwyd capel cyntaf y Bedyddwyr yn ardal Llanelli yn Felin-foel yn 1709. Fe gafodd ei enwi yn Tŷ Cyfarfod Tŷ Newydd. Fe gafodd ei ail adeiladu ym 1840 a'i enwi'n Capel Adulam.

+ Ffeithiau hanesyddol ychwanegol

Rygbi Felin-foel

Dyma'r clwb rygbi hynaf yn ardal Llanelli. Yn nhymor 1975-76, dathlodd Clwb Rygbi Felin-foel ei ganmlwyddiant. Y chwaraewr mwyaf enwog a gynhyrchwyd gan y clwb efallai oedd capten tîm rhyngwladol Cymru Phil Bennett, O.B.E., a arweiniodd ei wlad i'r 'Gamp Lawn' ym 1978.

Ysgol Felin-foel

Roedd ysgol yn 'Tŷ Newydd', man cyfarfod y Bedyddwyr (Adulam) yn 1779, a David Hughes oedd y Prifathro. Dyma'r ysgol gyntaf yn y pentref.

Glowyr Felin-foel

Roedd llawer o'r gweithwyr oedd yn gweithio ym mhwll glo Gors/Bryngwyn yn byw yn Felin-foel.

Rheilffordd neu dramffordd Sir Gaerfyrddin

Dyma'r rheilffordd weithredol gyhoeddus gyntaf ym Mhrydain. Wagenni a câi eu tynnu gan geffylau ar blatiau tram o haearn bwrw oedd y rheilffordd hon. Roedd y rheilffordd yn rhedeg yn agos i'r tŷ cwrdd, 'Tŷ Newydd' (Capel Adulam).

Beca'n galw am ddiod

Ar Fedi'r 6ed 1843, fe aeth Merched Beca i dafarn yn Felin-foel a tanio nifer o fwledi, gan fygwth y tafarnwr a mynnu cwrw. Yn ôl yr hanesydd victorianaidd, John Innes, fe gawson nhw feddwad ac fe ddiflannon nhw i niwl y nôs!

Dewiswch ddau hen adeilad neu ddwy heneb ddiddorol yn eich ardal leol ac ysgrifennwch ddisgrifiad neu ffeithiau ynglŷn a nhw. Mae angen ichi berswadio gweithiwr y Canolfan Croeso i gynnwys eich gwaith ysgrifenedig yn y siop newydd.

Her

Lluniwch daflen brintiedig neu gyfres o dudalennau gwe i berswadio ymwelwyr i ddod i'ch ardal leol. Cofiwch gynnwys gwybodaeth am leoedd diddorol / adeiladau hanesyddol y gallen nhw ymweld â nhw. Efallai yr hoffech gynnwys llwybr treftadaeth o amgylch eich ardal leol gyda chodau QR i helpu'r ymwelwyr i ffeindio'u ffordd o gwmpas yr ardal.