×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 3 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd mewn Mapiau: Uned 3 Gwlad gyffrous yw Cymru!

Allwch chi ddweud wrth eich ffrindiau ble yng Nghymru mae'r lleoedd yma? Defnyddiwch y cwmpawd i'ch helpu.

Ble hoffech chi fynd, a pham? Rhannwch eich syniadau gyda ffrind.

Compass / Cwmpawd
×

Caernarfon

Dyma lun o Gastell Caernarfon. Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn ymweld â'r castell.

×

Y Bala

Dyma lun o weithgareddau Canolfan Tryweryn, yn y Bala. Mae ymwelwyr yn ymweld â'r ganolfan hon ar gyfer rafftio dŵr gwyn, canŵio a chaiaco.

×

Tyddewi

Dyma lun o eglwys gadeiriol Tyddewi. Mae llawer o ymwelwyr yn ymweld â'r eglwys gadeiriol ar bererindod o amgylch Cymru. Roedd Dewi Sant yn byw yn yr ardal, yn y chweched ganrif!

×

Yr Wyddfa

Dyma'r mynydd uchaf yng Nghymru: 1085m uwch lefel y môr. Mae llawer o ymwelwyr yn dringo'r Wyddfa pob blwyddyn, neu yn mynd ar y trên i fyny at y copa.

×

Blaenau Ffestiniog

Zip World: Mae Zip World yn cynnig ystod unigryw o anturiaethau yn nghanol Eryri. Mae'n cynnwys pâr o linellau zip, milltir o hyd, lle gallwch deithio mwy na 100mya, 500 troedfedd i fyny.
Bounce Below: Mae Bounce Below yn cynnig profiad unigryw a gwahanol i unrhyw beth a welwyd o'r blaen. Ble mae rhwydi mawr yn cael eu hongian yn yr hen ogof llechi dan y ddaear, ar lefelau amrywiol yn creu trampolinau mawr, llwybrau cerdded, sleidiau a thwneli.

×

Blaenafon

'Big Pit' yw Amgueddfa Lofaol Cymru, ac roedd yn gweithredu fel pwll glo rhwng 1860 i 1980.

×

Sgomer

Mae llawer o bobl yn mynd mewn cwch i ymweld ag Ynys Sgomer i arsylwi ar y bywyd gwyllt, gan gynnwys dolffiniaid, morloi a phalod lliwgar.

×

Ynys y Barri

Mae Ynys y Barri yn boblogaidd iawn gan dwristiaid ar gyfer eu cyrchfannau glan môr a chanolfannau adloniant.

Her!

Cynlluniwch siwrnai gyffrous a diddorol o amgylch Cymru i ymwelydd o Ewrop.