(e.e. Gogledd, Gogledd-orllewin, De, Dwyrain, Gorllewin)
Y prif ddull sy'n cael ei ddefnyddio gan ddaearyddwyr. Mae mapiau'n dangos nodweddion ar ffurf cynllun, fel maen nhw'n cael eu gweld gan yr adar oddi uchod.
Ardal o dir sydd o dan reolaeth ei llywodraeth ei hun, e.e. Cymru.
Y ddinas sy'n gartref swyddogol i lywodraeth y wlad, e.e. Caerdydd
Darnau mawr iawn, iawn o dir. Mae saith cyfandir yn y byd, e.e. Ewrop.
Baner sy'n symbol o wlad ac sy'n cynrychioli'r wlad.
Rhan o wyneb y Ddaear a all gael ei gweld yr un pryd o un lle.
Gwrthrych neu adeiledd ar y tir sy'n hawdd ei weld a'i adnabod.
Yr arian sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan wlad, e.e. ewro.
Moroedd mawr iawn, iawn, e.e. Y Môr Tawel. Mae'r cefnforoedd yn gorchuddio dros 71% o wyneb y Ddaear!
Llinell ddychmygol o amgylch canol y Ddaear. Mae'r cyhydedd yn mesur tua 24,900 o filltiroedd (40,000 o gilometrau)!
Edrychwch ar y lluniau isod, ac ysgrifennwch unrhyw syniadau sy'n dod i'ch meddwl yn y blychau isod. Wedyn, ystyriwch y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Botswana. Gallwch lusgo geiriau o'r rhestr i'r blychau, os ydych yn dymuno
Allwch chi ddod o hyd i dri pheth sy'n debyg a thri pheth sy'n wahanol rhwng byw yng Nghymru a byw yn Botswana?
Rhestrwch nhw. Beth yw'r rhesymau am hyn?
Defnyddiwch ddiagram Venn i gofnodi'r tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng byw yng Nghymru a byw yn Botswana.