×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 2 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 2 Fy Myd Ehangach

Beth yw'ch barn chi am y datblygiadau hyn?

Yn y blychau, nodwch y pethau rydych chi'n eu hoffi neu'n eu casáu ynglŷn â'r datblygiadau, a thrafodwch effeithiau cadarnhaol a negyddol pob un.

Datblygiad #1
Canolfan Hamdden Newydd
Gweld/Cuddio y Sgript

(i) Hoffwn ddatblygu canolfan hamdden newydd yng nghanol tref Llanelli. Fe fyddai'r ganolfan hamdden newydd yn cynnwys sinema aml-sgrin, gwesty, theatr, swyddfeydd, siopau, bwytai a tafarndai.

(ii) Bydd hyn yn creu swyddi newydd ac yn denu mwy o siopwyr ac ymwelwyr i ganol tref Llanelli. Bydd teithio ddim yn broblem, oherwydd bydd yna 240 o lefydd parcio ceir a chyfnewidfa bws newydd yno.

Ysgrifennwch eich barn isod:
Datblygiad #2
Amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd yn Llanelli
Gweld/Cuddio y Sgript

(i) Hoffwn i ddatblygu amddiffynfeydd llifogydd newydd yn Llanelli ar hyd Doc y Gogledd a Pharc Arfordirol y Mileniwm. Byddai rhain yn cynnwys ailosod yr amddiffynfeydd môr presennol - grwynau pren a morgloddiau – gyda grwynau craig a morgloddiau concrid.

(ii) Rwy'n credu bod y datblygiad hwn yn hanfodol os rydym am ddiogelu arfordir Llanelli yn erbyn newidiadau yn yr hinsawdd, lefelau'r môr yn codi, erydiad a stormydd. Mae stormydd diweddar eisoes wedi dinistrio Llwybr Arfordirol y Mileniwm o amgylch Llanelli.

Ysgrifennwch eich barn isod:
Datblygiad #3
Canolfan Chwaraeon Newydd
Gweld/Cuddio y Sgript

(i) Hoffwn ddatblygu canolfan chwaraeon newydd yn Llanelli. Byddai'r ganolfan chwaraeon newyddyn yn cynnwys cyrtiau tennis, caeau pêl-droed a rygbi ar gyfer pob tywydd, campfa, pwll nofio, cwrt pêl-rwyd, trac athletau a felodrom.

(ii) Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad cyffrous a phwysig iawn. Byddai'n annog mwy o blant a phobl i fod yn fwy actif ac i fyw bywydau iachach. Ni fydd rhaid i bobl wastraffu amser yn teithio o un weithgaredd chwaraeon i'r llall. Mae beicio hefyd wedi dod yn boblogaidd iawn yn y blynyddoedd diwethaf.

Ysgrifennwch eich barn isod:

Her!

Oes yna ddatblygiadau diddorol ar gyfer y dyfodol yn eich Byd Ehangach chi?

Lluniwch gyflwyniad i esbonio pam mae'ch Byd Ehangach chi yn lle diddorol.