×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 5 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Awyr-agored: Uned 5 Ydych chi'n barod i ymchwilio? Ffwrdd â ni!

Mae'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi rhoi arian i ddatblygu ardal eistedd newydd ar dir yr ysgol.


Y peth yw... Mae ganddyn nhw broblem! Dydyn nhw ddim yn gwybod pa fath o seddi i'w prynu! Dydyn nhw ddim yn gwybod chwaith ble i osod yr ardal eistedd newydd.


Allwch chi eu helpu nhw?

Mae arnyn nhw angen eich help i ddatrys y ddwy broblem ynglŷn â'r ardal eistedd newydd.


Beth yw'r ddwy broblem?

Mewn parau, darllenwch y senario uchod i ddarganfod beth yw'r ddwy broblem.


Cofnodwch eich atebion yn y blychau isod: