Y broses o ddechrau busnes neu sefydliad arall.
Busnes darparu gwasanaethau i dwristiaid.
Pobl sy'n ymweld â rhywle o ran pleser.
Ymchwil sy'n cael ei gwneud er mwyn casglu gwybodaeth am yr hyn yr hoffai pobl ei brynu a pham.
Yr ardal o amgylch yr ysgol a lle rydych chi'n byw.
Enw torfol ar gyfer yr eitemau a'r offer sy'n cael eu gweld ar strydoedd a heolydd, e.e. meinciau, blychau post, arwyddion traffig
Mathau o gludiant fel trenau a bysiau sy'n gallu mynd â nifer fawr o bobl yr un pryd.
Sefydliad sy'n cynnig gwybodaeth i ymwelwyr â thref neu ddinas am ddigwyddiadau, lle i aros a lleoedd diddorol i'w gweld.
Y brif heol drwy ganol tref neu bentref.
Yn y wlad
Math arbennig o god bar sy'n gallu cael ei ddefnyddio at lawer o ddibenion gwahanol
Yn y dref neu'r ddinas
Mewn parau, trafodwch pa nodweddion diddorol y gallwch eu gweld. Gwnewch restr o'r holl nodweddion hyn. Defnyddiwch lyfr nodiadau, neu'r tabl isod, i'ch helpu i gofnodi'ch gwaith. Allwch chi eu dosbarthu mewn grwpiau gwahanol, e.e. nodweddion naturiol/nodweddion dynol/gwasanaethau/preswyl?
Beth allwch chi eu gweld? | Ble maen nhw? | Sut byddech chi'n eu grwpio nhw? | |
Edrychwch ar awyrlun a map o'ch ardal leol. Mewn parau, gwnewch restr o'r holl wahanol nodweddion daearyddol a gwasanaethau y gallwch eu gweld.