×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 4 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 4 Fy Myd Ewropeaidd

Darllenwch benawdau a safbwyntiau'r papurau newydd isod.

Rhestrwch y problemau mae twristiaid yn eu creu yn Barcelona.

Sut gallwn ni ddatrys y problemau?

A ddylai rhagor o westai gael eu codi i dwristiaid yn Barcelona?

Ysgrifennwch eich syniadau chi yn y blychau isod.

GORMOD o DWRISTIAID yn ymweld â Sbaen!

Gofynnwyd i drigolion Barcelona lenwi holiadur i enwi problemau'r ddinas. Dywedodd 5.3% mai twristiaeth yw'r broblem fwyaf. Ers 1992, mae nifer y twristiaid sy'n ymweld â Barcelona wedi mwy na threblu.

GWAHARDD TWRISTIAID o FARCHNAD LA BOQUERIA!

Mae Maer Barcelona wedi cyhoeddi cynlluniau i gyfyngu ar nifer y twristiaid sy'n dod i'r ddinas. Mae grwpiau mawr o ymwelwyr wedi cael eu gwahardd rhag mynd i farchnad gyhoeddus eiconig La Boqueria ar yr adegau prysur, gan gynnwys dydd Gwener a dydd Sadwrn yn ystod yr oriau pan fydd y bobl leol yn gwneud eu siopa wythnosol.

#1 - Blogbost

Dwi'n byw yn Barcelona ers cael fy ngeni. Dwi wedi cael digon ar yr holl sŵn a'r sbwriel mae'r twristiaid yn eu creu wrth ddod i'm dinas hyfryd i. Dylen nhw osod cyfyngiad ar nifer y twristiaid sy'n ymweld â rhai rhannau o'r ddinas. Beth yw'ch barn chi?

#2 - Sylw

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae'r strydoedd a'r heolydd yn rhy llawn o dwristiaid yn aml. Weithiau rwy'n gorfod aros fwy nag awr i brynu papur newydd! Mae'n chwerthinllyd. Dinas o 1.6 miliwn o bobl ydyn ni ond mae mwy nag 8 miliwn yn dod yma ar eu gwyliau bob blwyddyn!

#3 - Sylw

Dwi'n anghytuno â'r sylwadau am dwristiaid yn Barcelona. Mae twristiaeth yn creu o leiaf 12,000 o swyddi. Mae twristiaid yn gwario dros 25M ewro (£18M) y dydd yn Barcelona. Mae angen twristiaid i ddod i'r ddinas er mwyn cael arian i adeiladu tai newydd, ysgolion a ffyrdd yn y ddinas.

#4 - Sylw

Fe ddylen ni fod yn falch bod cynifer o ymwelwyr eisiau dod i Barcelona i weld ein dinas gyffrous a diddorol. Dwi'n falch iawn o rannu fy hunaniaeth, fy niwylliant a'm treftadaeth gyda'r twristiaid. Byddai Barcelona'n dawel iawn heb y twristiaid.

Her!

Gan ddefnyddio'r blychau isod, lluniwch gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r broblem, gan gynnwys targedau a meini prawf ar gyfer llwyddiant. Defnyddiwch yr holl wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu drwy gwblhau'r gweithgareddau, er mwyn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y cynlluniad cenedlaethol Catalan, yn Barcelona.