×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 1 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 1 Fy Myd Lleol
Bragdy Felin-foel
Bragdy Felin-foel
×
Bragdy Felin-foel

Bragdy Felin-foel

Mae'r lle hyn yn arbennig achos dyma'r bragdy cyntaf ym Mhrydain Fawr i roi cwrw mewn caniau yn 1936, a'r ail yn y byd! Yn y gorffennol, yn ystod misoedd y gaeaf, roedd y tafarndai yn bragu cwrw eu hunain.

Olwyn y Felin
Olwyn y Felin
×
Olwyn y Felin

Olwyn y Felin

Mae'r lle hyn yn arbennig achos dyma ble roedd yr hen felin ŷd yn sefyll. Credai haneswyr bod y felin wedi bod yno ers 1399! Dyma pam, mae 'Felin-foel' yw enw ein pentref

Rhes y Ffermwyr
Rhes y Ffermwyr
×
Rhes y Ffermwyr

Rhes y Ffermwyr

Mae'r lle hyn yn arbennig achos ar ddiwrnod bragu, roedd yr heol yma tu fas i fragdy Felin-foel yn llawn o ffermwyr yn aros i gasglu'r soeg. Gronynnau bach oedd yn weddill oedd soeg, ac roedd y ffermwyr yn ei ddefnyddio i fwydo eu hanifeiliaid.

107 Heol Felinfoel
107 Heol Felinfoel
×
107 Heol Felinfoel

107 Heol Felinfoel

Mae'r lle hyn yn arbennig achos dyma ble roedd tollborth Tŷ'r Frân yn sefyll cyn i Ferched Beca ei ddymchwel yn 1843. Mae haneswyr yn credu bod Merched Beca wedi bod yn yfed cwrw am ddim mewn tafarndai yn Felin-foel, cyn ymosod ar y tollborth.

Pwll Bedyddio Felin-foel
Pwll Bedyddio Felin-foel
×
Pwll Bedyddio Felin-foel

Pwll Bedyddio Felin-foel

Mae'r lle hyn yn bwysig, achos roedd pobl yn cael eu bedyddio yma, nôl yn 1709. Fe wnaeth bedyddwyr Capel Adulam greu y pwll yn arbennig ar gyfer bedyddio pobl yn yr Afon Lliedi.

Her!

Gwnewch arolwg dosbarth i gael gwybod pa le yn eich ardal leol yw'r un mwyaf poblogaidd.

Yna, lluniwch arweiniad defnyddiol i'ch Byd Lleol chi. Pam mae eich ardal leol yn arbennig?

Efallai y bydd angen gofyn i'ch athro neu'ch athrawes helpu i osod hyn allan.