×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 1 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd mewn Mapiau: Uned 1 Ffeindio'n ffordd o gwmpas yr ysgol!

Isod gallwch weld awyrlun a chynllun o diroedd yr ysgol. Lluniwch restr o'r holl wrthrychau gwahanol y gallwch eu gweld yn yr awyrlun a'r cynllun.

Beth allwch chi ei weld yn y cynllun o'r tiroedd? Ble gallwch chi weld y nodweddion hyn? Meddyliwch am eich disgrifiadau yn nhermau'r cyfeiriadau ar y cwmpawd, e.e. mae mynedfa'r ysgol i'r de o'r maes parcio.

Gan ddefnyddio'r tabl isod i gofnodi'ch atebion, tynnwch lun symbol ar gyfer pob gwrthrych y byddwch yn ei gofnodi, er mwyn creu allwedd.

Llun Ein Byd / Our World Image
Llun Ein Byd / Our World Image
Gwrthrych Lleoliad y Gwrthrych Symbol yn yr Allwedd

Her!

Lluniwch gynllun o diroedd eich ysgol chi ac ychwanegu allwedd at y cynllun.