×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 5 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 5 Fy Myd Byd-eang

Beth mae'r lluniau yn yr oriel isod yn dweud wrthoch chi am Botswana?

Ydy'r newidiadau hyn yn dda? Pam?

Rhannwch eich syniadau gyda'ch grŵp.

Maen nhw'n gallu lladd os aiff pobl yn rhy agos atyn nhw.
Mae ymwelwyr yn dod i Botswana i weld yr eliffantod.
Maen nhw'n teithio y tu allan i'r ardaloedd diogel i chwilio am fwyd a diod.
Dim ond rhyw 600,000 o eliffantod sydd ar ôl yn Affrica.
Maen nhw'n gallu dinistrio cynefinoedd anifeiliaid eraill.
Mil o flynyddoedd yn ôl, roedd 1,500,000 o eliffantod Affricanaidd.
Mae'n anghywir hela a lladd eliffantod am eu hifori.
Maen nhw'n dinistrio cartrefi ac eiddo.
Gallwn ni werthu eu hifori a gwneud arian.
Mae ymwelwyr yn dod ag arian i Botswana.

Dadleuon o blaid hela eliffantod

Dadleuon yn erbyn hela eliffantod

Her!

Dewiswch wlad a chreu ffilm neu gyflwyniad byr yn dangos sut fywyd sydd ar gael yno. Cofiwch ddarganfod beth sy'n digwydd yn y newyddion yn eich gwlad chi!