Yr ardal o amgylch yr ysgol a lle rydych chi'n byw.
Yr amgylchoedd lle bydd pobl, planhigion neu anifeiliaid yn byw neu lle bydd pobl yn gweithio.
Archwiliad beirniadol manwl, fel arfer yn ymwneud â set o gwestiynau y byddwch yn gofyn i nifer o bobl eu hateb er mwyn cael gwybodaeth am eu barn neu eu hymddygiad.
Ffurflen sy'n cynnwys set o gwestiynau fel ffordd o gasglu gwybodaeth ar gyfer arolwg.
Barn pobl
Gwybodaeth ar ffurf mesuriadau, ffeithiau neu arsylwadau.
Un broblem wedi'i datrys! Gadewch inni ymchwilio i Broblem 2!
Ble gallen nhw osod yr ardal eistedd newydd?
Nawr bydd angen ichi edrych ar gynllun neu ffotograff o diroedd eich ysgol a dewis tri lleoliad.
Dyma enghraifft i'ch helpu!
Edrychwch yn ofalus ar y tri lleoliad posibl ar y ffotograff enghreifftiol isod o diroedd ysgol.
Ble mae'r lleoliadau hyn ar y cynllun?
Allwch chi roi cyfeirnod grid 4-ffigur ar gyfer pob lleoliad?
Lleoliad | Disgrifiad o'r Lleoliad (ger y ffens; gyferbyn â'r maes parcio, etc.) | Cyfeirnod Grid | Cywir? |
---|---|---|---|
1 | (,) | ✔ | |
2 | (,) | ✔ | |
3 | (,) | ✔ |
Pa leoliad sydd orau gennych, a pham?
Cofnodwch eich syniadau ar lyfr nodiadau.
e.e. byddwn i'n dewis lleoliad (1) ar gyfer yr ardal eistedd newydd oherwydd …