×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 2 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Awyr-agored: Uned 2 Dewch i edrych ar y tywydd tu allan!

Llanberis

Mi fydd hi'n stormus gyda gwyntoedd cryfion. Byddwn yn gweld stormydd taranau a glaw trwm gyda'r tymheredd yn disgyn i 10°C.

Aberystwyth

Bydd yr awyr yn gymylog heddiw gyda chyflymder y gwynt yn gymedrol - tua 40 cilomedr yr awr.

Caerfyrddin

Cawodydd trwm drwy'r dydd, yn teimlo'n fwyn iawn gyda'r tymheredd yn cyrraedd 20°C.

Caerdydd

Yr heulwen yn disgleirio gyda ychydig o gymylau gyda'r tymheredd yn cyrraedd uchafbwynt o 22°C.

Llanidloes

Y tymheredd yn cwympo i -1°C. Bydd yr awyr yn glir gyda thipyn o rew ar lawr; felly gwisgwch yn gynnes!

Wrecsam

Diwrnod crasboeth gyda thymheredd uchel iawn yn cyrraedd 27°C, a chyflymder gwynt isel, felly gwnewch yn siwr bod gennych eli haul wrth law!

Aberhonddu

Tymheredd yn disgyn yn is na'r rhewbwynt. Gallwn hefyd ddisgwyl rhywfaint o eira, yn enwedig ar dir uwch.

Caergybi

Teimlo'n fwyn iawn heddiw gyda chymylau a glaw ysgafn. Y tymheredd yn gymhedrol – tua 15°C gyda chyflymder y gwynt yn cyrraedd 30km/h.

Hwlffordd

Dechrau tywyll iawn i'r diwrnod, yn teimlo'n oer iawn gyda niwl a tharth mewn mannau.

Bae Ceredigion Bae Caerfyrddin Bae Abertawe Bae Caernarfon Ynys Môn Rhuthun Wrecsam Aberteifi Llanfair-ym-Muallt Hwlffordd Caerfyrddin Abertawe CAERDYDD Yr Wyddgrug Casnewydd Dyfrdwy

Her!

Lluniwch eich bwletin tywydd eich hun, gan ddefnyddio'r offer uchod