×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 2 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 2 Fy Myd Ehangach
×

Parc y Scarlets, Llanelli

Dyma stadiwm rygbi'r Scarlets yn Llanelli a agorodd ym mis Tachwedd 2008, yn lle hen stadiwm Parc y Strade.

×

Parc Manwerthu Trostre, Llanelli

Dyma'r ardal siopa fwyaf llwyddiannus yn Llanelli; mae'n agos i Lwybr y Mileniwm ac i Waith Dur Trostre.

×

Stiwdio Tinopolis Cymru, Llanelli

Dyma gynhyrchydd mwyaf rhaglenni teledu Cymraeg, sy'n creu 400 o oriau bob blwyddyn, gan gynnwys rhaglen Heno.

×

Parc Gwledig Pen-bre

Mae yna lawer o bethau i bobl eu gwneud yn y parc gwledig, e.e. tag laser awyr agored, sgïo sych, a chwaraeon antur yn y fforest.

×

WWT Llanelli, Llwynhendy, Llanelli

Mae pobl yn dod i'r Ganolfan Tir Gwlyb i weld llawer o bethau fel y fflamingos lliwgar ac i chwilio am bryfed a phethau yn y pyllau dŵr.

×

Castell Cydweli

Castell Normanaidd yw hwn (1200-1476) ac mae'n edrych dros Afon Gwendraeth a thref Cydweli.

×

Parc Arfordir y Mileniwm, Llanelli

Mae gan y parc yma leoedd i bobl feicio, cerdded, bwydo'r hwyaid, nofio yn y môr ac ymweld â'r ganolfan ddarganfod.

×

Parc Llyn Llech Owain, Gorslas

Mae pobl yn mynd i'r parc i gerdded y llwybrau natur, gweld y llyn a chwarae yn y maes antur.

×

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne

Mae gan yr ardd dŷ gwydr o'r enw'r Tŷ Gwydr Mawr a phlanhigion ynddo o bedwar ban y byd.

×

Theatr y Ffwrnes, Llanelli

Dyma theatr fodern yng nghanol tref Llanelli ac mae pobl yn mwynhau dod yma i weld sioeau a ffilmiau.

Dewiswch o leiaf dri lle y gallech eu cynnwys yn eich cyflwyniad. Cofnodwch eich gwybodaeth yn y tabl isod.

Enw'r lle Ble mae e?Pam mae'n bwysig? (beth yw ei ddiben e?) 

Her!

Holwch bobl eraill i ofyn beth yn eu barn nhw sy'n ddiddorol am leoedd yn y 'Byd Ehangach' a Chymru.