×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 5 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd mewn Mapiau: Uned 5 Ffwrdd â ni i weld y byd i gyd yn grwn!

Mae'r tywydd yn newid mewn rhannau gwahanol o'r Byd.

Os oes patrymau tywydd tebyg, mae hynny'n cael ei adnabod fel hinsawdd.

Wrth hinsawdd rydyn ni'n golygu glaw a heulwen gwlad, ei gwyntoedd, ei stormydd a phopeth arall sy'n ffurfio'r tywydd.

Sut dywydd sydd yna mewn gwahanol fathau o hinsawdd? Cliciwch ar y map i gael gwybod.

Yna, dewiswch dri lle gwahanol a disgrifiwch y tywydd yno.

hinsawdd arctig
hinsawdd dymherus
hinsawdd Ganoldirol
hinsawdd drofannol
hinsawdd diffeithdir

Delwedd ar gael o dan y drwydded cyhhoeddus GNU 1.2

Her!

Pa fath o hinsawdd yr hoffech chi fyw ynddi fwyaf? Gan ddefnyddio llyfr nodiadau, ysgrifennwch pam y byddai'n well gennych fyw yn yr hinsawdd hon, yna trafodwch eich rhesymau gyda'r grŵp.