×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 3 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Lleol: Uned 3 Fy Myd Cymreig

Cyn bwrw ymlaen, meddyliwch beth hoffech chi ei weld yng Nghymru yn y dyfodol.

Rhannwch eich syniadau gyda phartner. Fe hoffwn i weld … achos…

Defnyddiwch lyfr nodiadau i gofnodi'ch syniadau.

Cytuno
Anghytuno

Llusgwch 'Cytuno' neu 'Anghytuno' i bob gosodiad isod, gan ddibynnu ar sut rydych chi'n teimlo amdanyn nhw

Gosodiad Cytuno/Anghytuno
Fydd dim digon o swyddi i bobl leol.
Bydd pobl yn gallu beicio, cerdded, pysgota a rhedeg o amgylch wal y morlyn.
Bydd bywyd gwyllt y môr yn diflannu pan gaiff y morlyn ei adeiladu.
Fydd y morlyn ynni llanw ddim yn creu digon o ynni i neb.
Bydd y ganolfan newydd i ymwelwyr yn denu mwy o dwristiaid i'r ardal.
Bydd yn darparu ynni glân at y dyfodol.
Bydd y morlyn ynni llanw yn creu lleoliad unigryw ar gyfer mabolgampau.
Nawr, trafodwch gyda'ch grŵp dysgu pam rydych chi wedi cytuno/anghytuno â phob gosodiad

Her!

Rhowch gyflwyniad tebyg i raglen 'Dragon's Den' er mwyn perswadio pobl i roi arian ar gyfer y prosiect. Bydd y dreigiau'n gofyn cwestiynau; meddyliwch am y pethau canlynol:

  • Beth yw e?
  • Ble bydd e?
  • Sut caiff e ei adeiladu?
  • Ar bwy fydd e'n effeithio?
  • Pwy sydd yn erbyn y datblygiad? Pam?
  • Pwy sy'n credu y byddai hyn yn wych i Gymru? Pam?