×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 2 - Adnoddau i athrawon

×
Llunio'r ymchwiliad – Paratoi a gwybodaeth flaenorol: Dylai'r disgyblion ddeall: (i)Yng Nghymru mae'r tywydd yn tueddu i newid gyda'r tymhorau, ond hefyd o ddydd i ddydd yn ystod y tymhorau (ii)rydyn ni fel arfer yn mesur y tymheredd mewn graddau Celsius.
Ein Byd Awyr-agored: Uned 2 Dewch i edrych ar y tywydd tu allan!

Pa mor astud fuoch chi'n gwrando? Allwch chi ateb y cwestiynau hyn?

  • 1. Pa offer sy'n cael ei ddefnyddio i fesur y tymheredd?
  • 2. Pa offer sy'n cael ei ddefnyddio i fesur cyflymder y gwynt?
  • 3. Pa offer sy'n cael ei ddefnyddio i fesur cyfeiriad y gwynt?
  • 4. Pa offer sy'n cael ei ddefnyddio i fesur glawiad?
  • 5. Pa unedau mesur sy'n cael eu defnyddio i fesur glawiad?
  • 6. Pa unedau mesur sy'n cael eu defnyddio i fesur y tymheredd?
Marcio

Her

Gadewch inni gofnodi'r tywydd y tu allan i'r dosbarth! Eich tro chi nawr!