×

Adnoddau

Adnoddau i athrawon

Uned 5 - Adnoddau i athrawon

×
Ein Byd Awyr-agored: Uned 5 Ydych chi'n barod i ymchwilio? Ffwrdd â ni!

Gadewch inni geisio ymchwilio a datrys Problem 1!


Mewn parau neu grwpiau, trafodwch pa fath o ardal eistedd y dylai'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ei phrynu.

Beth fydd pwrpas yr ardal eistedd newydd?

Defnyddiwch fap meddwl i gofnodi'ch syniadau.


I ddefnyddio offeryn y map meddwl isod:

  • i greu blwch newydd, cliciwch ar y + yn y gornel uchaf ar y chwith ym maes y map meddwl, teipiwch yr hyn yr hoffech i'r blwch newydd ei ddweud a chliciwch ar 'Ychwanegu'
  • caiff eich blwch newydd ei osod ym maes y map meddwl. Oddi yno, gallwch lusgo'r blwch i rywle arall!
  • cliciwch ar unrhyw flwch i'w ddefnyddio fel eich 'cartref' presennol. Ond cymerwch ofal: ar ôl clicio ar flwch, allwch chi mo'i symud eto!
  • gwnewch gynifer o flychau a 'chartrefi' ag y gallwch feddwl amdanyn nhw!
  • (i ddileu blwch, cliciwch arno, wedyn cliciwch ar y – yn y gornel uchaf ar y chwith)
  • pan fyddwch yn barod, arbedwch () neu argraffwch () eich map meddwl

+
-

Ychwanegu pwynt newydd

Pwrpas yr ardal eistedd
e.e. rhywle i eistedd a darllen