Y broses o ddechrau busnes neu sefydliad arall.
Busnes darparu gwasanaethau i dwristiaid.
Pobl sy'n ymweld â rhywle o ran pleser.
Ymchwil sy'n cael ei gwneud er mwyn casglu gwybodaeth am yr hyn yr hoffai pobl ei brynu a pham.
Yr ardal o amgylch yr ysgol a lle rydych chi'n byw.
Enw torfol ar gyfer yr eitemau a'r offer sy'n cael eu gweld ar strydoedd a heolydd, e.e. meinciau, blychau post, arwyddion traffig
Mathau o gludiant fel trenau a bysiau sy'n gallu mynd â nifer fawr o bobl yr un pryd.
Sefydliad sy'n cynnig gwybodaeth i ymwelwyr â thref neu ddinas am ddigwyddiadau, lle i aros a lleoedd diddorol i'w gweld.
Y brif heol drwy ganol tref neu bentref.
Yn y wlad
Math arbennig o god bar sy'n gallu cael ei ddefnyddio at lawer o ddibenion gwahanol
Yn y dref neu'r ddinas
Allwch chi helpu'r entrepreneur busnes i greu taflen sy'n dangos gwybodaeth neu weithgareddau defnyddiol, i'w cynnwys yn y ganolfan wybodaeth i dwristiaid? Cofiwch gynnwys lleoedd i fwyta, lleoedd i aros, digwyddiadau, etc. Defnyddiwch lyfr nodiadau i helpu i gynllunio'ch gwaith.
Gadewch inni ymchwilio i'ch ardal leol! Allwch chi weld unrhyw gelfi stryd diddorol yno? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu neu'n cael gwared arno? Fyddech chi'n newid y dyluniad? Os felly, sut? Ymchwiliwch i'r pwnc ac wedyn dyluniwch amrediad o gelfi stryd newydd i'ch tref, i adlewyrchu ei hoed a'i chymeriad.