Yr ardal o amgylch yr ysgol a lle rydych chi'n byw.
Y brif heol drwy ganol tref neu bentref.
Eich ardal leol chi.
Yr amgylchoedd lle bydd pobl, planhigion neu anifeiliaid yn byw neu lle bydd pobl yn gweithio.
Ymchwilio i'r ffeithiau am ryw bwnc.
Archwiliad beirniadol manwl, fel arfer yn ymwneud â set o gwestiynau y byddwch yn gofyn i nifer o bobl eu hateb er mwyn cael gwybodaeth am eu barn neu eu hymddygiad.
Pwynt neu rychwant mewn gofod
Ffurflen sy'n cynnwys set o gwestiynau fel ffordd o gasglu gwybodaeth ar gyfer arolwg.
Heb fod yn niweidiol i'r amgylchedd.
Nwy gwenwynig.
Ysgrifen neu luniau ar waliau neu wynebau eraill lle nad yw'n cael ei ganiatáu.
Halogi neu wenwyno'r aer, afonydd, pridd neu'r môr â sylweddau niweidiol. Er enghraifft, mae traffig yn llygru'r aer â mygdarth gwenwynig a phibellau gwacáu.
Beth allwch chi ei weld yn y ffotograffau hyn?
Gyda phartner, trafodwch beth allwch chi ei weld yn y ffotograffau hyn.
Yn eich barn chi, pa ffotograffau sy'n dangos lleoedd sy'n eco-gyfeillgar? Pam rydych chi'n credu hynny?
Ble mae'r lleoedd hyn? Allwch chi roi cyfeirnod grid 4 ffigur ar gyfer pob lle?
Lleoliad | Cyfeirnod Grid | Cywir? |
---|---|---|
Afon Lliedi | (,) | ✔ |
Bwrdd Llwybr Treftadaeth y Felin | (,) | ✔ |
Maes parcio | (,) | ✔ |
Arosfan fysiau | (,) | ✔ |
Tiroedd Ysgol y Felin | (,) | ✔ |
Clwb Rygbi Felin-foel | (,) | ✔ |