Ramps

1

Dyma’r parc sglefrio mwyaf yng Nghymru. Mae’r safle yn 12 000 o droedfeddi sgwâr ac mae modd sglefrio y tu fewn a’r tu allan. Mae gennym ystod eang o rampiau o bob math, addas i’r profiadol a’r dechreuwyr.

Mae siop arbenigol sy’n gwerthu’r offer diweddaraf ynghyd â chaffi i 60 o bobl hefyd ar y safle.

2
3

Gallwch ddod yma i sglefrfyrddio, llafnrolio, reidio sgwteri neu reidio beiciau BMX. Gall plant mor ifanc â phump oed ddod yma. Mae gennym glwb plant cynradd ar ddydd Sadwrn a’r cyfan am ddim. Mae modd dod yma i gael parti pen-blwydd hefyd.