lliwgar | |
cyffrous | |
bywiog | |
parchus |
Llwyfan lliwgar, cyffrous â mwg yn codi fel petai miloedd o sosbenni rhythmig yn berwi o dan y llawr ... y goleuadau lliwgar, llachar yn disgleirio ym mhob twll a chornel ... a chyffro cyrff bywiog y dawnswyr proffesiynol yn plygu i bob cyfeiriad yn llyfn i rythm uchel y gerddoriaeth. A minnau yn fy nillad ysblennydd ... gyda fy wyneb wedi ei goluro’n berffaith a ’ngwallt wedi ei olchi a’i liwio hyfryd ... yn canu nerth fy mhen i gyfeiliant y band byw. A nhw – y beirniaid gwybodus, parchus – yn eistedd o ’mlaen i’n gwrando’n astud. Minnau’n llawn hyder, yn llawn gobaith ac yn llawn ffydd am ddyfodol gwell.