Dannedd

1

Cafodd dyn ifanc dwy ar bymtheg oed o India 232 o ddannedd wedi eu tynnu o’i geg mewn llawdriniaeth saith awr o hyd yn Mumbai. Credir bod hyn yn record byd.

Roedd Ashik Gavai wedi bod yn cwyno o boen yn y deintgig yng ngwaelod ei geg ond nid oedd y meddygon yn ei bentref genedigol yn gallu deall beth oedd y broblem.

Aeth ei dad ag ef i Mumbai a deallodd y meddygon yno ei fod yn dioddef o odontoma cymhleth, cyflwr lle mae llawer o ddannedd yn ffurfio mewn rhan fach o’r genau. Roedd y llawdriniaeth a dderbyniodd Ashik yn gymhleth iawn ac fe gymerodd saith awr.

Wrth i’r meddygon ddechrau ar y llawdriniaeth, roeddent yn meddwl mai mater syml fyddai tynnu’r dannedd, ond wrth iddynt fwrw ymlaen, gwelwyd bod llawer o ddannedd bach fel perlau yn asgwrn y genau.

Dywedodd Dr Dhivare-Palwankar nad oedd hi erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg yn ei deng mlynedd ar hugain o yrfa. “Cyn hyn yr achos mwyaf roeddwn i wedi clywed amdano oedd 37 o ddannedd yn cael eu tynnu o dyfiant yn y deintgig yn nhop ceg y claf,” meddai.

Roedd teulu Ashik yn poeni mai cancr oedd y chwydd yn ei geg, ond wedi’r llawdriniaeth, mae disgwyl i’r gŵr ifanc wella’n llwyr heb unrhyw nam ar ei geg. Fodd bynnag, bydd angen iddo fynd at y deintydd yn rheolaidd nawr i wirio bod popeth yn iawn gyda'r 28 dant sydd ganddo’n weddill ac i sicrhau nad yw’r tiwmor yn aildyfu.