Prynhawn da i chi.
Yn Aberystwyth, mae tua chant o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ar ôl llifogydd drwg yn ardal Parc y Llyn yn y dref. Roedd yn rhaid i archfarchnad Morrisons a bwyty McDonald’s gau hefyd, ar ôl i afon Rheidol orlifo. Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae rhai mannau o dan dair troedfedd o ddŵr. Mae’r trigolion lleol yn derbyn cymorth a lloches yng Nghanolfan Hamdden Plascrug.
Dyma’r trydydd tro i hyn ddigwydd mewn pum mlynedd. Mae Cyngor Ceredigion eisoes wedi gwario £600 000 ar wella amddiffynfeydd yn ardal Aberystwyth ac wedi dargyfeirio’r afon ger Parc y Llyn. Y llynedd, roedd yn rhaid i’r cyngor dalu £150 000 o iawndal i drigolion a effeithiwyd gan y llifogydd.