Dim ond awr i fynd cyn yr anthemau ac yna’r chwiban. Dw i’n eistedd yng nghanol môr swnllyd o grysau cochion, yn canu nerth eu pennau. Mae Mam a Taid yn edrych yn ddoniol achos maen nhw’n gwisgo cotiau coch a gwyn ac maen nhw’n chwifio draig goch enfawr! Gobeithio fyddan nhw ddim ar y teledu!