PARTI PEN-BLWYDD CHRIS
Neges i’ch atgoffa chi am fy mharti pen-blwydd nos yfory.
Cofiwch: bydd yr hwyl yn dechrau am saith o’r gloch yn y ganolfan chwaraeon. Bydd bwyd feganaidd (bwyd heb unrhyw gysylltiad ag anifail), cerddoriaeth a dawnsio drwy’r nos. Cofiwch wisgo fel anifail sydd mewn perygl achos rhaid i ni godi ymwybyddiaeth bod rhai o anifeiliaid prin y byd mewn perygl. Os na wnawn ni rywbeth, byddan nhw’n diflannu oddi ar wyneb y ddaear.
Cofiwch hefyd: dim anrhegion ond mae croeso i chi roi cyfraniad i’r gronfa Anifeiliaid Mewn Perygl. Bydd bocs wrth y drws.
| prynu | Cofiwch |
| dod | Cofiwch |
| dysgu | Cofiwch |
| cadw | Cofiwch |
| trefnu | Cofiwch |