Senario

Rydych chi'n byw mewn pentref bach ar yr arfordir sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ac erydiad arfordirol.
Mae'r rhan fwyaf o'r pentref wedi ei adeiladu ar lethr o gerrig mân.

Beth ydy eich dewisiadau?

Dewis 1 Dewis 2 Dewis 3 Dewis 4 Dewis 5 Dewis 6

Gwneud dim. Gadael i natur ddilyn ei chwrs.

Cynnal a chadw'r amddiffynfeydd môr sy'n bodoli eisoes (grwynau pren, twyni tywod, morglawdd a morgloddiau pren).

Ailosod yr amddiffynfeydd môr sy'n bodoli eisoes (grwynau pren, twyni tywod, morglawdd a morgloddiau pren) gan ddefnyddio'r un deunydd.

Ailosod rhai o'r amddiffynfeydd môr sy'n bodoli eisoes (grwynau a morgloddiau) gan ddefnyddio deunyddiau gwahanol, e.e. grwynau a morgloddiau craig.

Adeiladu amddiffynfa fôr goncrid newydd, mwy ei maint yn yr un lleoliad yn y pentref ac ychwanegu maeth at y traeth – gosod tywod a cherrig mân ar y traeth (e.e. 25,000 tunnell o gerrig mân ac 15,000 tunnell o dywod) i gynyddu'r lled. Bydd hyn yn diogelu'r traeth a'r pentref rhag y tonnau. Pam? Bydd y tonnau'n torri ymhellach oddi ar y lan a bydd llai o rym ganddyn nhw i erydu'r traeth.

Adeiladu riff amlbwrpas newydd ger y clogwyni. Bydd hwn yn creu traeth lletach wrth y lan. Bydd hwn hefyd yn gweithredu i roi ffocws a ffurf i'r tonnau. Bydd hefyd yn gwella amodau syrffio. Bydd y syrffiwr yn gallu reidio'r tonnau'n hwy o dan reolaeth.

Canolfan Peniarth

Canolfan Peniarth

Borth
Manteision / Anfanteision

Beth ydych chi'n meddwl ydy manteision ac anfanteision y dewisiadau hyn?

Ydych chi'n gallu meddwl am 2 fantais a 2 anfantais ar gyfer y dewisiadau gwahanol? Trafodwch eich ateb gyda ffrind neu athro.

Manteision

Anfanteision

Yn ôl i'r llun