Cantre'r Gwaelod

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed 'Beth sy'n gorwedd o dan y môr?'

Os ewch chi am dro ar hyd y traeth ym mhentref Borth, ym Mae Ceredigion, weithiau gallwch chi weld bonion coed pan fydd y tonnau ar drai a'r llanw'n isel. Mae'r llun yn dangos un o'r bonion hyn wedi ei gadw mewn mawn. Roedd yn goeden binwydd dal yng nghyfnod Oes yr Iâ, tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Gallwch chi ddod o hyd i goedwigoedd sydd wedi eu boddi mewn rhannau eraill o Gymru, fel traeth Marros ym Mae Caerfyrddin a thraeth Lleniog ger Biwmares.


Yn ystod Oes yr Iâ, roedd tua thraean o'r Byd wedi ei rewi a'i orchuddio dan lenni iâ, cannoedd o fetrau mewn trwch ar brydiau. Doedd Môr Iwerddon ddim yn bod a gallech chi fod wedi cerdded i Iwerddon o Gymru. Yr iâ luniodd siâp Cymru fel y mae heddiw. Ond dros gyfnod hir o amser dechreuodd y tymheredd godi. Toddodd yr iâ ac fe wnaeth y dyfroedd grymus symud creigiau, dyfnhau dyffrynnoedd a gorchuddio'r tir, gan gynnwys y coed.


Os byddwch chi'n teithio ar gwch o gwmpas arfordir Cymru neu'n cerdded ar hyd llwybr arfordirol, fe ddylech chi weld clogwyni rhyfedd eu siâp a luniwyd gan y môr, y gwynt a'r glaw. Mewn rhai rhannau, fel Bae Ceredigion, mae'n bosib y gallwch chi weld sarnau hir iawn yn gwthio allan i'r môr. Maen nhw wedi eu ffurfio o glai, graean, cerrig mân a cherrig mawrion (a elwir yn dil fel arfer) sydd wedi cael eu symud filoedd o flynyddoedd yn ôl gan Oes yr Iâ.

Un o'r rhai hyn yw Sarn Badrig. Mae tua 17 metr o hyd ac yn rhedeg allan i'r môr o Fochras ger Harlech.

Tua 1500 o flynyddoedd yn ôl, roedd teyrnas o'r enw Cantre'r Gwaelod lle mae Bae Ceredigion heddiw. Roedd un ar bymtheg o bentrefi yn y deyrnas a thir ffermio da iawn. Roedd y pentrefwyr yn defnyddio'r gwymon fel gwrtaith. Gwyddno Garanhir oedd y brenin. Roedd yn cael ei adnabod fel 'Gwyddno Coesau Hir' hefyd oherwydd ei fod mor dal. Roedd ei gaer neu balas gwych saith milltir allan i'r môr, i'r gorllewin o Aberystwyth. Adeiladodd ef forglawdd anferth neu wal â llifddorau er mwyn amddiffyn ei deyrnas rhag y môr. Roedd y llifddorau yn cael eu hagor pan oedd y llanw'n isel i ddraenio'r dŵr o'r tir ac yn cael eu cau pan fyddai'r llanw'n codi. Seithennin, ffrind y brenin, oedd ceidwad y llifddorau.

Un noson stormus iawn roedd y tonnau'n curo yn erbyn y morglawdd. Mae rhai yn dweud bod Seithennin yn cysgu oherwydd ei fod wedi yfed gormod o win, ar ôl bod ym mharti'r brenin. Mae eraill yn dweud bod merch roedd ef yn ei charu wedi mynd â'i sylw a'i fod yn genfigennus oherwydd ei bod ar fin priodi rhywun arall. Beth bynnag oedd y rheswm, anghofiodd gau'r llifddorau'n dynn. Rhuthrodd y môr i mewn a boddi'r tir, gan ddinistrio'r pentrefi. Fe wnaeth y brenin a'i bobl ffoi am eu bywyd.


Dywedir eich bod yn gallu clywed clychau eglwys Cantre'r Gwaelod yn canu ar noson dawel, ddi-stŵr. Cliciwch yma i ddarllen cerdd enwog J. J. Williams am Glychau Cantre'r Gwaelod.

Dydyn ni ddim yn gwybod faint o wirionedd sydd yn chwedl Cantre'r Gwaelod. A wnaeth Seithennin yfed gormod o win mewn gwirionedd a syrthio i gysgu? Ai gweddillion amddiffynfeydd môr y brenin yw'r sarnau mewn gwirionedd? Oedd palas gan y brenin yn y môr? Mae llawer o bobl yn credu bod rhywfaint o wirionedd yn y chwedl.

Dywedodd Phil Hughes, cadeirydd Ffrindiau Bae Ceredigion: "Mae llawer o dystiolaeth i awgrymu bod Cantre'r Gwaelod yn bodoli ac rydw i'n credu bod tir allan yno."


Dyma fap o 1920. Mae'n dod o lyfr sy'n disgrifio'r newidiadau a fu i'r arfordir. Mae'r awdur yn dweud bod y môr yn arfer bod llawer ymhellach i'r gorllewin nag ydy e nawr. Ond dros y canrifoedd mae'r môr wedi symud i'r dwyrain ac erydu'r clogwyni a newid cwrs yr afonydd, fel yr afon Mawddach. Roedd hon yn llifo ar un adeg drwy bentref Llanaber. Rydyn ni'n gwybod hyn oherwydd mae archeolegwyr wedi darganfod gwrthrychau fel angor llong o dan y ddaear. Cliciwch ar y map i'w wneud yn fwy.

Fe wnaeth awdur arall o'r enw Samuel Lewis ddisgrifio casgliad o gerrig rhydd allan yn y môr fel 'palas Gwyddno'.


Mae gwyddonwyr yn dweud wrthym fod coedwig o dan y môr ym Mae Ceredigion tua 7,000 o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw'n gallu defnyddio technoleg nawr i greu mapiau o wely'r môr i ddangos olion lle roedd pobl yn byw ar un adeg. Efallai bydd y dechnoleg newydd yma yn gallu ateb ein cwestiynau ryw ddydd. Ond mae chwedl Cantre'r Gwaelod yn dal yn fyw.

Cantre'r Gwaelod

Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr.

Gweithgareddau ⇓

1. Ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y digwyddodd y chwedl?

2. Ble yng Nghymru y digwyddodd y chwedl?

3. Pam digwyddodd hyn a beth oedd y canlyniadau?

4. Beth a ellir ei wneud i rwystro hyn yn y dyfodol?