Dewis iaith

Ble yng Nghymru y ceir y chwedlau hyn?

Wales

1

Croeso i wefan Chwedlau Cymru

Ar y wefan hon byddwch yn dysgu am chwe chwedl. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n dysgu am ddaearyddiaeth a hanes Cymru.


Beth ydy chwedl?

Trowch gornel y dudalen i ddysgu mwy neu dewiswch Gymru i ddechrau. Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r bysellau saeth chwith a de ar eich bysellfwrdd i fynd drwy'r llyfr.

2

Beth ydy chwedl?

Ydych chi erioed wedi clywed am y gair 'chwedl'? Yr hen Rufeiniaid ddefnyddiodd y gair am y tro cyntaf a'i ystyr oedd 'pethau i'w darllen'.

Heddiw mae pobl yn defnyddio'r gair Saesneg am chwedl, sef 'legend' pan fyddan nhw'n siarad am bobl enwog a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Yn y cyfnod diweddar, efallai y byddan nhw'n disgrifio chwaraewr pêl-droed chwedlonol fel John Charles neu arwr byd y ffilmiau, Richard Burton yn 'legend'. Wrth gyfeirio atyn nhw fel hyn maen nhw'n dweud bod y bobl hyn yn enwog oherwydd eu sgiliau neu oherwydd y pethau maen nhw wedi eu gwneud.

Weithiau mae cyswllt agos rhwng rhywun sy'n 'legend' a lle, er enghraifft John Charles a'r Eidal, oherwydd dyna lle chwaraeodd ei bêl-droed gorau.

3

John Charles, 1954 Cleopatra ac Richard Burton, 1963

Mae chwedlau yn gymysgedd o ffeithiau a phethau sydd ddim yn hollol wir. Gyda chwedlau o bell, bell yn ôl, mae'n anodd dweud i sicrwydd a oedd y bobl hyn yn bobl go iawn oherwydd dydy'r dystiolaeth ddim gyda ni.

Mae llawer o lyfrau a ffilmiau am arwyr sydd yn gysylltiedig â phobl fel y Brenin Arthur, Tywysog Madog a Buddug. Weithiau doedd y bobl ddim yn gwneud yr hyn mae'r stori yn ei ddweud neu mae'r digwyddiadau wedi cael eu newid i wneud y stori yn fwy diddorol neu'n fwy credadwy.

4

Pan fyddwch chi'n darllen am chwedlau gallwch chi hefyd ddysgu llawer am eu lleoliad. Weithiau byddwch chi'n gwybod enwau nodweddion fel mynyddoedd, baeau, afonydd, llynnoedd ac ynysoedd.

Bydd y wefan hon yn eich helpu i ddysgu am chwe chwedl a'r hyn maen nhw yn dweud wrthym am Gymru a'i phobl. Mae nifer o chwedlau eraill yng Nghymru.

Ceisiwch ddod o hyd i wybodaeth am chwedlau yn eich ardal chi. Meddyliwch am yr hyn maen nhw'n ddweud wrthych am lle rydych chi'n byw.

5

ê