O dan y môr a'i donnau
Mae llawer dinas dlos
Fu'n gwrando ar y clychau
Yn canu gyda'r nos;
Trwy ofer esgeulustod
Y gwyliwr ar y tŵr
Aeth clychau Cantre'r Gwaelod
O'r golwg dan y dŵr.
Pan fyddo'r môr yn berwi
A'r corwynt ar y don,
A'r wylan wen yn methu
Cael disgyn ar ei bron;
Pan dyr y don ar dywod
A tharan yn ei stŵr,
Mae clychau Cantre'r Gwaelod
Yn ddistaw dan y dŵr.
Ond pan fo'r môr heb awel
A'r don heb ewyn gwyn,
A'r dydd yn marw'n dawel
Ar ysgwydd bell y bryn,
Mae nodau pêr yn dyfod,
A gwn yn eitha' siŵr
Fod clychau Cantre'r Gwaelod
I'w clywed dan y dŵr.
O cenwch, glych fy mebyd,
Ar waelod llaith y lli;
Daw oriau bore bywyd
Yn sŵn y gân i mi.
Hyd fedd mi gofia'r tywod
Ar lawer nos ddi-stŵr,
A chlychau Cantre'r Gwaelod
Yn canu dan y dŵr.