Cyn penderfynu ymchwiliwch y gwahanol safbwyntiau canlynol.
Mae fy nhŷ bellter oddi wrth y môr a'r clogwyni. Does dim risg uchel o lifogydd o ran fy nhŷ i yn y dyfodol. Byddai'n well gwario'r arian ar adeiladu tai a siopau newydd ymhellach oddi wrth y traeth.
Mae fy nhŷ wedi bod o dan ddŵr unwaith. Mae'n rhaid i ni warchod y pentref rhag llifogydd yn y dyfodol a dylid gwneud hyn ar unwaith.
cuddioMae fy nhir ymhell oddi wrth y môr. Dydyn ni ddim yn gallu rhwystro newid hinsawdd. Bydd lefelau'r môr yn codi a bydd gaeafau gwlypach, mwy stormus yn cynyddu'r risg o lifogydd.
cuddioMae'n rhaid i ni warchod ein pentref rhag llifogydd neu fydd dim ymwelwyr yn dod i'm parc carafanau. Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn yn y pentref.
cuddioMae fy nghaffi a'm siop yn agos iawn at lan y môr. Bydd fy mywoliaeth yn diflannu os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud cyn bo hir i warchod y pentref rhag llifogydd yn y dyfodol.
cuddioDydyn ni ddim yn gallu osgoi newid yn yr hinsawdd a lefelau'r môr yn codi. Mae creu riff newydd gan ddefnyddio creigiau o Norwy yn rhy ddrud a dydy e ddim yn gynaliadwy. Byddai hefyd yn dinistrio'r olygfa hyfryd o'r pentref.
cuddioGwneud dim. Gadael i natur ddilyn ei chwrs.
Ailosod yr amddiffynfeydd môr sy'n bodoli eisoes (grwynau pren, twyni tywod, morglawdd a morgloddiau pren) gan ddefnyddio'r un deunydd.
Adeiladu riff amlbwrpas newydd ger y clogwyni. Bydd hwn yn creu traeth lletach wrth y lan. Bydd hwn hefyd yn gweithredu i roi ffocws a ffurf i'r tonnau. Bydd hefyd yn gwella amodau syrffio. Bydd y syrffiwr yn gallu reidio'r tonnau'n hwy o dan reolaeth.
Dewiswch UN opsiwn a chyflwynwch yr opsiwn o'ch dewis.
Dadleuwch eich achos PAM y dylai'r cyngor cefnogi eich opsiwn o'ch dewis.