Diwrnod trwynau coch
Sut dechreuodd diwrnod trwynau coch?
Ym mis Rhagfyr 1985, roedd newyn ofnadwy yn Ethiopia. Ar ddydd Nadolig, yn fyw ar BBC1, cafodd Comic Relief ei lansio. Roedd y syniad yn syml. Roedd grŵp o ddigrifwyr enwog yn mynd i ddod at ei gilydd i wneud i bobl chwerthin a chasglu arian i helpu’r newynog.
Yna, yn 1988, dechreuodd diwrnod trwynau coch. Y syniad ydy bod pobl yn gwneud rhywbeth digrif ac yn cael hwyl, ac ar yr un pryd, yn codi arian i helpu newid bywyd pobl dlawd. Mae diwrnod trwynau coch yn digwydd bob yn ail flwyddyn.
Pa fath o bethau mae pobl yn eu gwneud am arian?
Dyma rai pethau sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y gorffennol.
- Cafodd y dŵr ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd ei liwio’n goch
- Cafodd golau coch ei roi ar Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Hefyd, mae rhai pobl yn cael eu noddi i wneud pethau anarferol, e.e.
- grŵp o blant yn eistedd mewn bath o jeli coch
- staff y gegin yn gwisgo dillad coch ac yn paratoi pryd o fwyd coch i’r plant
- pêl-droedwyr clwb Abertawe yn lliwio’u gwallt yn goch yn 2011.
Beth sy’n digwydd ar y teledu?
Ar ddiwrnod trwynau coch mae rhaglen ar y teledu gyda’r nos. Yn 1988 codon nhw £15 miliwn ar y noson. Yn 2013 codon nhw £75 107 851, y swm mwyaf erioed a bron tri chwarter miliwn yn fwy na 2011.
Am fis cyn y diwrnod mawr yn 2013, roedd rhaglen arbennig – Let’s Dance for Comic Relief ar y teledu ar nos Sadwrn. Roedd sêr o Gymru’n bwysig ar y rhaglen deledu yma achos Alex Jones a Steve Jones oedd yn cyflwyno. Mae Steve yn dod o’r Rhondda ac mae Alex yn dod o Rydaman.
I ble mae’r arian yn mynd?
Mae’r arian yn mynd i helpu pobl ym Mhrydain a gwledydd tlawd y byd. Dyma sut mae peth o’r arian yn cael ei wario.
- Yn Uganda, mae llawer o bobl yn marw o malaria. Mae arian Comic Relief yn prynu rhwydi mosgito.
- Yn India, mae arian Comic Relief yn talu am loches i blant y stryd.
- Ym Mhrydain, mae arian Comic Relief yn helpu gofalwyr ifanc.
- Yn Affrica, mae arian Comic Relief yn adeiladu ysgolion i’r plant.