Faint o'r gloch ydych chi'n dechrau'r gwaith bob dydd?
Dw i'n codi am chwarter i bump bob bore ac yna, ar ôl brecwast, dw i'n gadael y tŷ am chwarter wedi pump er mwyn dechrau'r gwaith am hanner awr wedi pump.
Ydy hi'n anodd codi mor gynnar yn y bore?
Nac ydy, ddim o gwbl. Dw i'n gallu codi'n gynnar ac mae'n braf mynd i'r dref pan fydd neb arall yno.
Beth yn union ydych chi'n ei wneud?
Ar ôl cyrraedd swyddfa'r post, dw i'n sortio'r llythyrau a'r parseli. Yna, tua hanner awr wedi saith, dw i'n llwytho'r fan. Wedyn, dw i'n cael rhywbeth bach i'w yfed a dw i'n sgwrsio am ychydig gyda'r postmyn eraill. Mae'n braf iawn sgwrsio gyda nhw a rhannu jôc neu ddwy cyn dechrau dosbarthu'r post o dŷ i dŷ tua wyth o'r gloch.
Faint o'r gloch ydych chi'n gorffen eich gwaith bob dydd?
Dw i i fod i orffen am hanner awr wedi un, ond weithiau rhaid i fi weithio'n hwyrach.
Ydych chi'n gweithio bob dydd o'r wythnos?
Nac ydw, dw i ddim yn gweithio ar ddydd Sul.
Beth sy'n dda am fod yn bostman?
Dw i'n mwynhau cwrdd â phobl a dw i'n mwynhau gweithio'r tu allan. Mae rhai postmyn yn gyrru faniau ond dw i'n cerdded o dŷ i dŷ yn y dref, ac felly dw i'n cadw'n heini hefyd.
Beth sy'n anodd am fod yn bostman?
Mae rhai o fy ffrindiau i'n dweud bod cŵn mawr wedi rhedeg i fyny atyn nhw yn cyfarth yn gas, ond dw i erioed wedi cael y broblem yma.
Beth sy'n creu problemau i bostman?
Does dim llawer o broblemau. Weithiau, pan fydda i'n sortio'r llythyrau mae'n anodd deall y cyfeiriad ar amlen achos bod yr ysgrifen yn ofnadwy ac weithiau does dim cod post ar yr amlen chwaith. Ond dydy'r rhain ddim yn broblemau mawr.