Fy nheulu i a fi
Mae Mam yn hoffi pasta gwyn;
Mae Dad yn hoffi reis;
Mae 'mrawd yn hoffi pizzas mawr
 lot o toppings neis.
Dw i yn hoffi plataid mawr
O datws, ham a bîns;
Dw i ddim yn hoffi cyri poeth,
Tomatos na sardîns.
Mae Taid yn hoffi dawnsio'n wyllt
Mewn disgo yn y dre;
Mae Nain yn hoffi sglefrio iâ –
Mae'n gleidio dros y lle.
Hedd ap Emlyn