Darllenwch y testun yma.
Arwr!
Mae Siôn Williams wedi ennill gwobr sy'n dangos ei fod e'n fachgen arbennig iawn.
Mewn seremoni fawr mewn gwesty moethus yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf, enillodd Siôn y teitl Arwr Ifanc Cymru, a rhaid dweud, mae e'n dipyn o arwr!
Pan fydd pobl yn meddwl am arwr, yn aml iawn, maen nhw'n meddwl am ddyn cryf, dewr, sy'n gallu gwneud pob math o gampau, fel hedfan i fyny i'r awyr efallai ac yna disgyn i'r ddaear i ddal y dyn drwg – fel rhyw fath o Superman. Mae pobl eraill yn meddwl am ferch hardd, glyfar sy'n achub y byd rhag aliwns o'r gofod neu bob math o greaduriaid ofnadwy eraill.
Ond nid dyna beth yw arwr ac, yn sicr, nid dyna'r math o arwr yw Siôn. Bachgen deg oed, yn Ysgol Pant y Felin, yw e. Mae e'n hoffi chwarae pêl-droed a bwyta brechdanau menyn cnau mwnci – fel llawer o fechgyn eraill ei oed.
Mae e'n arwr oherwydd ei fod e wedi bod yn cefnogi ei frawd iau, Ifan, sy'n bump oed.