Chwiliwch am drosiad yn y paragraff yn yr adran Heddiw ... a chopïwch e / o yma.
Heddiw… Heddiw, mae’n lle anhygoel. Mae rhai mynyddoedd cochliw hardd mor uchel fel bod eira arnynt am fisoedd. Islaw, mae’r twyni tywod euraidd hyfryd yn ymestyn am filltiroedd ac mae creigiau lliwgar, diddorol a cheunentydd dwfn yn creu tapestri o brydferthwch anhygoel. Yn ogystal, gallwch chi weld safleoedd hanesyddol diddorol tu hwnt fel hen drefi gwag lle roedd y gweithwyr yn arfer byw, hen offer ac ati. Hyn oll o dan awyr las digwmwl hyfryd.
Mae poethaf, sychaf ac isaf yn enghreifftiau o radd eithaf yr ansoddeiriau. Chwiliwch am enghraifft arall o radd eithaf ansoddair yn y paragraff sy’n dilyn yr is-deitl Y lle poethaf ... sychaf ... isaf ar y Ddaear ... a chopïwch hi yma.
Y lle poethaf ... sychaf ... isaf ar y Ddaear ... Dyffryn Marwolaeth yw un o’r lleoedd poethaf ar y Ddaear. Gall y tymheredd godi i tua 54.0oC yn ystod yr haf ac yma, ym mis Gorffennaf 1913, y cofnodwyd y gwres uchaf erioed ar y Ddaear – 56.7oC. Mae’n lle sych iawn, gyda llai na phum centimetr o law bob blwyddyn. Mae dros 550 milltir sgwâr o’r Dyffryn yn is na lefel y môr ac mae Badwater 282 troedfedd islaw lefel y môr.