Cerdd

1

Fe gerddai henwr yn araf

I lawr hyd heol y cwm;

Heibio i'r stryd lle bu'n chwarae gynt

Ond heddiw oedd unig a llwm.

Roedd creithiau'r glo ar ei dalcen

A chyrn y pwll ar ei law

Ac wrth iddo gerdded hyd llwybr y gwaith

Fe glywai ryw leisiau o draw.

Fe glywai leisiau y glowyr

Wrth weithio yn nhywyllwch y ffas:

Alun Tŷ Canol a'i denor mor fwyn

A Tomos yn cyd-ganu bas.

Fe gofiai am hwyl yr hen ddyddiau

Pan oedd bywyd y cwm yn ei fri.

Fe gofiai y capel a'r llyfrgell yn llawn

Lle heddiw does ond dau neu dri.

A heno mae Tomos ac Alun

Yn naear y fynwent ill dau

A does dim ar ôl yn awr i'r hen ŵr

Ond atgofion, a phwll wedi cau.

2

Fe gerddai henwr yn araf

I lawr hyd heol y cwm;

Heibio i'r stryd lle bu'n chwarae gynt

Ond heddiw oedd unig a llwm.

Roedd creithiau'r glo ar ei dalcen

A chyrn y pwll ar ei law

Ac wrth iddo gerdded hyd llwybr y gwaith

Fe glywai ryw leisiau o draw.

Fe glywai leisiau y glowyr

Wrth weithio yn nhywyllwch y ffas:

Alun Tŷ Canol a'i denor mor fwyn

A Tomos yn cyd-ganu bas.

Fe gofiai am hwyl yr hen ddyddiau

Pan oedd bywyd y cwm yn ei fri.

Fe gofiai y capel a'r llyfrgell yn llawn

Lle heddiw does ond dau neu dri.

A heno mae Tomos ac Alun

Yn naear y fynwent ill dau

A does dim ar ôl yn awr i'r hen ŵr

Ond atgofion, a phwll wedi cau.

3
Ystyr Geiriau yn y testun
ling di long
tlawd
swynol
sbort
yn ffynnu
pridd