Wythnos Trychfilod Cenedlaethol

1
LLuosog Unigol
gerddi
coed
gweithgareddau
trychfilod
sgyrsiau
sesiynau
teithiau
arddangosfeydd
pryfed
morgrug
2

h o f f e c h  c h i  d d y s g u  m w y  a m  B r y f e d ,  t r y c h f i l o d ,  a  c h o r y n n o d . 

3

WYTHNOS TRYCHFILOD CENEDLAETHOL

Mehefin 20-26

Mae’r wythnos hon yn cael ei threfnu bob dwy flynedd ac mae’n gyfle gwych i bawb – plant ac oedolion – ddysgu mwy am y trychfilod bach a mawr sydd yn ein gerddi neu yn y coed.

Fel arfer, mae nifer o weithgareddau’n digwydd, fel sgyrsiau gan arbenigwyr, teithiau cerdded i edrych ar drychfilod yn y coed, arddangosfeydd gwaith celf, arddangosfeydd ffotograffiaeth yn dangos gwahanol fathau o bryfed, prosiectau cadwriaethol, sesiynau dysgu am forgrug, ffilmiau am bryfed a chyfle i ddysgu mwy am gorynnod neu bryfed cop.

Beth am drefnu’ch gweithgaredd eich hun? Yna rhannwch y wybodaeth ar-lein er mwyn denu cynifer o bobl â phosib i’ch digwyddiad.