Pat

Pat
1

- Roedd hi’n 12.00 o’r gloch y nos yn y stori.


- Roedd lleidr yn y tŷ.


- Roedd gordd gan Pat.


- Bydd Pat yn ffonio.


2

Pat

Ust! Pwy sy ’na? Thyd! Roedd hi’n hanner nos ac roedd Pat yn gorwedd yn hollol llonydd yn ei wely. Roedd y nyrs yn y tŷ ar ei ben ei hun. Beth oedd y sŵn yna? Oedd lleidr yn y tŷ? Oedd cath wedi dod i mewn drwy’r ffenest agored? Oedd ysbryd yno? Erbyn hyn roedd ei galon yn curo fel gordd ac roedd yn crynu fel deilen.

Gwich ... gwich. Roedd rhywun yno. Clywodd ddrws yr ystafell wely yn gwichian. Clywai ei hanadl yn dod yn nes ac yn nes. Roedd yr ystafell wely yn dywyll fel y fagddu ond gallai weld y golau bach coch ar y ffôn. Beth wnâi?