Canolfan Peniarth

Dewiswch un safbwynt neu fwy ac ewch ati i ddadlau eich achos pam y dylai'r cynnig gael ei dderbyn / ei wrthod gan yr adran gynllunio/ y gymuned leol.

Llusgwch y safbwyntiau gwahanol at y saeth yn seiliedig ar gryfder y ddadl.

 

  • Safbwynt 1 - Person lleol
  • Safbwynt 2 - Ffermwr
  • Safbwynt 3 - Cynghorydd lleol
  • Safbwynt 4 - Cyfarwyddwr cwmni tyrbinau gwynt
  • Safbwynt 5 - Swyddog twristiaeth
  • Safbwynt 6 - Perchennog caffi
  • Safbwynt 7 - Gwybodaeth gyffredinol
Dadleuon cryfach Dadleuon gwannach
S
A
F
B
W
Y
N
T
Mae hon yn ardal brydferth ac mae pobl yn ymweld â'r ardal i fwynhau'r golygfeydd rhyfeddol. Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y tyrbinau gwynt hyn yn dinistrio harddwch golygfaol yr ardal o gwmpas. Bydd y tyrbinau gwynt hefyd yn lladd adar ac yn niweidio bywyd gwyllt o bosib. Gall tyrbinau fod mor uchel â 145 metr! Mae fy nheulu i wedi ffermio'r ardal hon am dair cenhedlaeth. Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y sŵn o'r tyrbinau gwynt yn aflonyddu ar fy nefaid yn arbennig yn ystod y tymor ŵyna. Dim ond ffermydd gwynt ymhell o'r lan yn y môr dylen nhw adeiladu. Bydden nhw o'r golwg wedyn. Mae hwn yn safle delfrydol ar gyfer tyrbinau gwynt i gynhyrchu trydan. Mae ar gopa bryn ac mae'n lle gwyntog iawn. Mae eglwys Pennant Melangell yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid a phererinion. Bydd hyn yn difetha'r wlad a'i dawelwch. Mae'n rhaid i Gymru gael ynni carbon isel erbyn 2050 a chynllun y llywodraeth ydy cael tyrbinau gwynt ar 2% o dir Cymru. Bydd o fudd i'r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu. Mae angen llawer o dyrbinau gwynt er mwyn cynhyrchu llawer o ynni. Dim ond pan fydd hi'n wyntog iawn bydd y tyrbinau gwynt yn gweithio.